Mis Pride yw mis Mehefin
Mehefin sydd wedi’i ddewis oherwydd dyma'r mis y digwyddodd terfysgoedd Stonewall yn Greenwich Village, Efrog Newydd yn 1969 a ddechreuodd newid hawliau hoyw i bobl ledled America a gweddill y byd.
Mae 2022 yn nodi 50 mlynedd ers gorymdaith gyntaf Pride yn y DU ac mae dathliadau ar draws y wlad ar gyfer Pride 50. Gellir nodi cyflawniadau aruthrol yr hanner can mlynedd diwethaf gan hefyd edrych ymlaen at weld beth y gellir ei gyflawni dros yr hanner can mlynedd nesaf.
Pam ‘Pride’?
Mae Pride yn gwrthod unrhyw syniad bod arddel LHDT+ yn gywilyddus neu'n negyddol ac yn hytrach mae’n dathlu ac yn annog aelodau i fod yn falch ohonynt eu hunain a'u cymuned.
Mae Pride yn ddathliad o bobl yn dod at ei gilydd mewn cariad a chyfeillgarwch i ddangos pa mor bell mae hawliau LHDT+ wedi dod a sut mae dal gwaith i’w wneud. Mae Pride yn dathlu gwaith a chyfraniad pobl LHDT+, yn codi ymwybyddiaeth o hanes a heriau LHDT+, ac yn hyrwyddo derbyn a chydraddoldeb.
Eleni, y slogan yw #TakePride / #Ymfalchïo wrth gefnogi hawliau LHDT+ a dangos ein bod am fyw mewn byd lle nad oes gwahaniaethu yn erbyn neb oherwydd pwy ydyn nhw neu pwy maen nhw'n ei garu.
Ymfalchïwch yn eich gweithle
Mae gan weithleoedd cynhwysol ran bwysig i'w chwarae wrth greu byd lle gall pobl LHDT+ gyflawni eu potensial. Mae Cyngor Bro Morgannwg yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall Cymru*, sy'n golygu ein bod wedi ymrwymo i weithio tuag at weithle mwy cynhwysol. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod pawb yn gallu bod eu hunain yn y gwaith.
Mae ymchwil Stonewall ledled y DU wedi dangos:
- Bod bron i un o bob pum aelod o staff LHDT+ wedi bod yn destun sylwadau neu ymddygiad negyddol gan gydweithwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf am eu bod yn LHDT+
- Bod un o bob wyth person trawsryweddol wedi bod yn destun ymosodiad gan gwsmeriaid neu gydweithwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd eu bod yn draws
- Na fyddai un o bob wyth person LHDT+ yn teimlo'n hyderus wrth adrodd am fwlio homoffobig neu ddeuffobig i'w cyflogwr
Gall arddangosfeydd gweladwy o gefnogaeth ddangos i bobl LHDT+ eu bod yn rhydd i fod eu hunain, a all eu helpu i ffynnu yn y gwaith a thu hwnt.
Cawsom adborth yn ddiweddar ynglŷn â chanlyniad Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall (MCG) ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Mae hon wedi bod yn flwyddyn arbennig o ddiddorol ac anogol i'r Fro a bydd yn rhoi nifer o ganlyniadau newydd i ni fel sefydliad i weithio tuag atynt dros y cylch adolygu nesaf. Cadwch lygad am erthygl ar wahân yn ddiweddarach y mis hwn ynglŷn â hynny!
I gael rhagor o wybodaeth a gwybod sut i gymryd rhan a dangos eich cefnogaeth, gallwch ymweld â Stonewallac i'n helpu ni i ddeall sut rydyn ni'n gwneud fel sefydliad, cymerwch ran yn yr arolygon staff a pharatoi ar gyfer yr MGC pan ddaw o gwmpas.
Pride Cymru
Mae Pride Cymru wedi ymrwymo i ymgyrchu dros gydraddoldeb a derbyn amrywiaeth yn ein cymunedau. Maent yn cydnabod ac yn dathlu'r cyfraniadau a wneir gan bobl LHDT+ mewn cymdeithas ac yn gweithio i greu cyfleoedd i bobl LHDT+ ledled Cymru gysylltu a chefnogi ei gilydd. Mae Pride Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n effeithio ar y gymuned LHDT+ fel y gall cymdeithas fod yn rhydd o droseddau casineb, gwahaniaethu a rhagfarn.
Mae Pride Cymru yn cynnal eu digwyddiad Pride ar 27 a 28 Awst ar Lawntiau Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd. Mae Penwythnos Mawr Pride Cymru wedi dod yn ddigwyddiad cymunedol sy'n ystyriol o deuluoedd, gan alluogi grwpiau amrywiol i ddod at ei gilydd a dysgu mwy am ei gilydd a'r materion sy'n effeithio ar y gymuned LHDT+.
Maent yn gweithio i gefnogi pob maes yn y gymuned LHDT+ ledled Cymru a thrwy ymgysylltu a chreu partneriaethau â sefydliadau eraill, maent yn ymdrechu tuag at dderbyn a pharchu pawb.
I gael rhagor o wybodaeth am Pride Cymru, dathliadau'r Penwythnos Mawr ac i archwilio eu hashnod #UnigrywacUnedig, ewch i wefan Pride Cymru.
Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnig lle diogel a phleserus i bobl LHTDCRh+ weithio ac i sicrhau bod Bro Morgannwg yn amgylchedd cadarnhaol a meithringar. Os hoffech gymryd rhan yn hyn, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut i wneud pethau'n well, cysylltwch â GLAM, ein Rhwydwaith Staff LHDT+.