Digwyddiad Arolwg Staff yn Depo'r Alpau

Gwahoddir yr holl staff i ddigwyddiad yr Arolwg Staff a gynhelir ddydd Iau nesaf, 21 Gorffennaf.

Bydd cydweithwyr yn gosod stondin yn Nepo'r Alpau, Gwenfô rhwng 6am a 4pm. Yno, bydd staff yn gallu llenwi'r arolwg yn electronig neu ar bapur. Bydd y rhain yn aros yn ddienw.

Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cael brechdan bacwn a diod am ddim gan The Big Fresh Catering Co.

Mae angen cynifer o gydweithwyr â phosibl arnom i gwblhau'r arolwg - p'un a ydych yn gweithio mewn rôl rheng flaen, mewn swyddfa neu gartref, neu yn un o'n hysgolion.

Os nad ydych yn gallu dod i'r digwyddiad, gallwch gwblhau'r arolwg ar unrhyw liniadur neu ffôn symudol sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd.

Os byddwch yn cwblhau'r arolwg ar-lein byddwch yn cael eich cynnwys mewn raffl am ddim a gallech ennill te prynhawn i ddau, pâr o docynnau i berfformiad ym Mhafiliwn Pier Penarth, neu benwythnos yn un o gytiau traeth Ynys y Barri.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr Arolwg Staff 2022 ar StaffNet+ 

Gall cydweithwyr heb fynediad at ddyfeisiau TGCh corfforaethol gwblhau’r arolwg gan ddefnyddio eu dyfeisiau symudol eu hunain drwy sganio codau QR mewn gwahanol leoliadau yn y Fro. 

Os oes gennych gwestiynau am yr arolwg, siaradwch â'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf, neu e-bostiwch staffsurvey@valeofglamorgan.gov.uk