Tocynnau Gwobrau Staff ar werth nawr!

Mae tocynnau ar gael i'w prynu nawr ar gyfer Gwobrau Staff eleni a gynhelir yng Ngwesty’r Vale, Hensol ddydd Gwener 30 Medi 2022.

Mae tocynnau'n costio dim ond £10 y pen, gyda byrddau am ddeg person ar gael am bris gostyngol o £80, i gyd wedi’i wneud yn bosibl drwy roddion caredig gan ein noddwyr.  Mae’r pris yn cynnwys:

  • 18:30 - Cyrraedd a derbyniad diodydd
  • 19:00 - Croeso i'r digwyddiad
  • 19:15 - Gwobrau – Rhan I
  • 20:15 - Swper (2 gwrs ynghyd â gwin ar fyrddau)
  • 21:30 - Gwobrau – Rhan II
  • 22:30 - Disgo
  • 00:00 - Diolch a nos da

Llenwch y ffurflen isod i archebu eich tocynnau a'u hanfon at chiefexecutive@valeofglamorgan.gov.uk - bydd eich cais wedyn yn cael ei ddidoli a chaiff cais am daliad ei gyhoeddi.

Ffurflen Tocynnau

Cyhoeddir E-Docynnau yn nes at y dyddiad a gellir talu yn eich lleoliad dewisol drwy gysylltu â'r swyddogion perthnasol, fel y nodir isod:

  • Cyfarwyddiaeth Amgylchedd a Thai/ Yr Alpau - Jo Lewis
  • Dysgu a Sgiliau/Swyddfeydd Dinesig - Mark Davies
  • Gwasanaethau Cymdeithasol/ Swyddfeydd y Dociau - Andy Cole
  • Prif Weithredwr ac Adnoddau Corfforaethol/Swyddfeydd Dinesig - Angela Bobbett

Sylwch mai dim ond arian parod fydd yn cael ei dderbyn ac ni allwch gadw tocynnau.

Archebu Ystafelloedd

Mae'r Vale Resort, yn garedig iawn, wedi cynnig ystafelloedd ar gyfradd ostyngol ar gyfer y noson. Mae 20 ystafell wedi'u cadw ar y gyfradd hon. Mae’r prisiau fel a ganlyn:

  • Ystafell sengl safonol - £120
  • Ystafell ddwbl neu ddau wely - £130

Mae'r gyfradd hon yn cynnwys brecwast Cymreig llawn, defnyddio cyfleusterau hamdden a pharcio. Mae cofrestru’n agor am 3:00pm ac mae angen gadael erbyn 11:00am y diwrnod canlynol.

I archebu, ffoniwch 01443 667800 a dewiswch opsiwn 1. Wrth archebu’ch ystafell(oedd) nodwch ei fod ar gyfer Gwobrau Cyflogeion Cyngor Bro Morgannwg a byddwch yn cael cynnig y gyfradd ostyngol. Bydd angen i chi ddarparu manylion cyswllt / bilio a chadwch gerdyn credyd neu ddebyd wrth law i dalu blaendal o £50 na ellir ei ad-dalu. Bydd y balans sy'n weddill yn ddyledus pan fyddwch yn gadael. 

Bydd y cynnig cyfradd ostyngol yn dod i ben ar 31 Gorffennaf.