Staffnet+ >
Ar ôl blynyddoedd lawer o wasanaeth, rydyn ni'n ffarwelio â June Bradshaw
Ar ôl blynyddoedd lawer o wasanaeth, rydyn ni’n ffarwelio â June Bradshaw
Bydd cydweithwyr mewn cartref preswyl ym Mro Morgannwg yn dweud ffarwel arbennig yr wythnos hon wrth i aelod o’r tîm cadw ty ymddeol.
Bydd June Bradshaw yn ymddeol o'i rôl bresennol yn Nhŷ Dewi Sant ar 17 Gorffennaf yn 73 oed.
Mae June wedi gweithio sawl rôl wahanol yn y Fro ers dechrau fel cynorthwyydd domestig ym 1984, gan gynnwys gweithio mewn ysgolion, y gwasanaeth ieuenctid a gorsaf dân, ond ers 2001 mae wedi gweithio yn Nhŷ Dewi Sant, yn gyntaf fel cynorthwyydd domestig cyn symud i'w safle presennol yn 2013.
Mae cydweithwyr yn disgrifio June fel 'un o gymeriadau bywyd' sy'n trin pawb yr un fath, waeth beth fo'u safle neu eu cefndir. Bydd yn herio os yw'n teimlo y gellir gwneud gwaith yn well a phrin yw’r rhai a fyddai'n cyrraedd y safon uchel y mae hi’n ei chyrraedd yn eu gwaith.
Dywedodd Lance Carver, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae June yn wych ac rwy'n ddigon ffodus i ddweud fy mod wedi ei hadnabod ers dros 20 mlynedd. Mae June bob amser mor groesawgar a chyfeillgar.
"Mae pawb wedi dweud yr hoffen nhw iddi aros am byth a bod ei hymadawiad yn drist iawn ond fel y dywed June: "Mae'n rhaid i ni gyd rywbryd ac mae’n bryd i fi fynd nawr".
Dywedodd Marijke Jenkins, Rheolwr Gweithredol: "Mae pawb yn caru June ac mae'n gwneud gwaith rhagorol. Byddwn yn ie chael hi’n anodd iawn dod o hyd i rywun mor ymroddgar i gamu i’r adwy.
"Mae'r tîm eisiau dweud wrth June y byddan nhw'n gweld ei heisiau’n fawr ond yn dymuno ymddeol hapus iddi, does neb yn ei haeddu mwy."
Ymddeoliad hapus June!