Speak out SN Banner - Eng

Ffordd ddigidol newydd o godi eich llais

Nod strategaeth ddigidol y Cyngor yw gwella mynediad staff a chwsmeriaid at offer a rhaglenni digidol, gan wneud amrywiaeth o wasanaethau yn fwy effeithlon.

Mae offer digidol yn ei gwneud yn haws i staff gael mynediad at wasanaethau mewnol, gwella eu gallu i wneud eu gwaith a chreu amgylchedd gwaith mwy diogel. 

Mae llwyfan Codi Llais y Cyngor yn un o'r gwasanaethau staff sydd wedi symud i ffurflen ar-lein gan ddefnyddio GovService.

Mae codi llais neu 'chwythu'r chwiban' yn cael effaith gadarnhaol ar y sefydliad, gan ddiogelu cyllid ac enw da'r Cyngor tra'n cadw cydweithwyr a chwsmeriaid yn ddiogel. Bydd y system adrodd newydd a gwell yn ei gwneud yn haws i staff roi gwybod am eu pryderon yn gyfrinachol.

TI gael gwybod mwy am Godi Llais neu i roi gwybod am eich pryderon yn gyfrinachol, ewch i'r Hyb Codi Llais.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pandemig Covid-19 wedi taflu goleuni ar bwysigrwydd offer digidol hygyrch yn y gweithle. Roedd adrannau yn dibynnu ar raglenni Microsoft 365 fel Microsoft Forms a PowerAutomate i ddatblygu gwasanaethau mewn cyfnod byr. Roedd gallu defnyddio’r gwasanaethau hyn yn amhrisiadwy wrth ddarparu systemau archebu ar gyfer dosbarthu bwyd i breswylwyr oedd yn gwarchod a dosbarthu cyfarpar diogelu personol i gartrefi gofal. Drwy drwyddedau busnes Microsoft y Cyngor, mae gan staff bellach fynediad at lu o adnoddau hyfforddi a fydd yn galluogi staff i ddatblygu eu sgiliau digidol.

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd Oracle Fusion yn cael ei lansio, gan ddisodli'r system Oracle bresennol. Bydd y llwyfan newydd hwn ar y cwmwl yn rhoi porth hunanwasanaeth i bob cyflogai i gyflwyno gwahanol geisiadau adnoddau dynol, llwyfan llawer gwell i reolwyr adolygu a gweithredu ar y ceisiadau hyn yn ogystal â chwblhau llawer o'r tasgau sydd angen ffurflen BM ar hyn o bryd, a llwyfan caffael llawer gwell. 

Ochr yn ochr â gwella gwasanaethau i staff, un o nodau allweddol y strategaeth ddigidol yw gwella profiad cwsmeriaid a lleihau amseroedd ymateb drwy leihau'r bwlch rhwng nodi problem a dod o hyd i ateb i'r broblem honno.

Mae'r Cyngor wedi buddsoddi mewn offer digidol i alluogi adrannau i ymdrin yn well â cheisiadau am wasanaethau ac adroddiadau. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae platfform GovService wedi dechrau disodli'r system RhCC Oracle bresennol, gan alluogi adrannau i sefydlu cyfrifon cwsmeriaid. Mae'r llwyfan newydd ar y cwmwl yn galluogi adrannau i ddylunio atebion rheoli achosion effeithiol ac yn galluogi cwsmeriaid i gofnodi ceisiadau ac adroddiadau drwy unrhyw ddyfais ar adeg sy'n gyfleus iddynt.

Mae lansiad porth gwe newydd 'Cyfranogi Bro' hefyd ar y gweill. Bydd y porth yn rhoi lle diogel ar-lein i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Fro i ymgysylltu â materion lleol allweddol drwy e-ddeisebau ac ymgyngoriadau.

Hyb Codi Llais