Eich Diogelwch
Mae polisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor yn caniatáu i chi godi pryder mewn modd cyfrinachol.
Mae'r polisi'n sicrhau nad yw'r rhai sy'n dewis codi eu llais yn cael eu herlid na'u diswyddo am godi eu pryderon.
Mae'r rhai sy'n dewis codi eu llais wedi'u diogelu'n gyfreithiol a bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw eich enw'n cael ei ddatgelu heb eich caniatâd.
Nid yw'r Cyngor yn goddef unrhyw aflonyddu neu erlid a bydd yn cymryd camau i amddiffyn y rhai sy'n codi pryderon.
Mae cyfraith y DU yn amddiffyn gweithwyr rhag diswyddiad, aflonyddu neu erledigaeth os bydd triniaeth o'r fath yn digwydd o ganlyniad i ddatgeliad chwythu'r chwiban yr ystyrir ei fod er budd y cyhoedd.
Gallwch ddarllen mwy am yr amddiffyniad cyfreithiol a roddir i chwythwyr chwiban ar dudalen 5 o Bolisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor.