Beth yw Diwrnod Cofio'r Holocost?
Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn foment arwyddocaol yn hanes ein cenedl, pan fyddwn yn oedi i dalu teyrnged i'r rhai a gafodd eu herlid a’u lladd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau eraill ledled y byd.
27 Ionawr yw pen-blwydd rhyddhau Auschwitz-Birkenau, y gwersyll marwolaeth Natsiaidd mwyaf. Cofiwn am y chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, ynghyd â'r miliynau o bobl eraill a laddwyd o dan erledigaeth y Natsiaid. Mae hefyd yn cofio'r rhai a laddwyd mewn hil-laddiadau a ddilynodd, megis yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
Mae DCH ar gyfer pawb. Bob blwyddyn ledled y Deyrnas Gyfunol, mae miloedd o bobl yn dod at ei gilydd i ddysgu mwy am hil-laddiad yn y gorffennol a chymryd camau i greu dyfodol mwy diogel. Rydym yn gwybod eu bod yn dysgu mwy, yn cydymdeimlo mwy ac yn gwneud mwy.
Bob blwyddyn mae gweithgaredd Diwrnod Cofio'r Holocost yn y Deyrnas Gyfunol yn seiliedig ar thema benodol a ddewiswyd gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost. Ar gyfer 2022, y thema yw 'Un Diwrnod'. Dyma fydd thema'r gwasanaeth coffa yn Neuadd y Ddinas a digwyddiadau eraill ledled Cymru a gynhelir i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost.