Staffnet+ >
Ydych chi wedi ystyried ymuno â Rhwydwaith Amrywiaeth y Staff?
Ydych chi wedi ystyried ymuno â Rhwydwaith Amrywiaeth y Staff?
Mae Rhwydwaith Amrywiaeth y Staff yn gam cadarnhaol i'n sefydliad o ran hyrwyddo gweithle cynhwysol sy'n dathlu ei gymuned a'i weithlu amrywiol.
Gan mai Wythnos Cydraddoldeb Hiliol yw hi rhwng 7 a 13 Chwefror, roeddem am atgoffa cydweithwyr o'r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd o fewn y rhwydwaith.
Yn ystod yr wythnos hon, mae'r aelodau wedi:
- Cymryd rhan mewn Cyfarfod Man Diogel i fynd i'r afael â materion Cydraddoldeb Hiliol yn y sefydliad.
- Helpu i lansio ymgyrch Fy Enw i yw i annog sillafu ffonetig ar fathodynnau ac ati.
- Annog yr aelodau sy’n uwch arweinwyr i wneud yr Addewid Mawr.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno?
Mae croeso i bob aelod o staff ymuno â'r rhwydwaith a chefnogi ei genhadaeth i helpu'r Cyngor i ddod yn gyflogwr o ddewis i bobl o gymunedau amrywiol.
Yn rhan o'r genhadaeth hon, nod y grŵp yw:
- Cael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y gweithle;
- Codi ymwybyddiaeth gyffredinol o'i waith, a’i wneud yn weladwy;
- Creu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol.
Mae sefydlu'r rhwydwaith yn gam tuag at ddechrau'r sgwrs am gydraddoldeb hiliol yn y Cyngor mewn ffordd adeiladol ac agored a dangos y gall sgyrsiau anghyfforddus arwain at newid gwirioneddol.
Os hoffech ddod yn aelod o Rwydwaith Amrywiaeth y Cyngor, cwblhewch y ffurflen aelodaeth:
Ffurflen Aelodaeth