Dydd Mercher 7 Rhagfyr: Diwrnod Hawliau'r Gymraeg 

 

Nod Diwrnod Hawliau'r Gymraeg yw codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddelio â gwasanaethau cyhoeddus.

Fel gweithiwr, mae gennych hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle ac mae Cyngor Bro Morgannwg yn annog staff yn gryf i siarad a dysgu Cymraeg - mae cymaint o fanteision i chi, i'r sefydliad, i'n cwsmeriaid, ac i'n cymuned.

Mae Diwrnod Hawliau’r Gymraeg yn gyfle i ni fel sefydliad cyhoeddus hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd. mae hefyd yn nodi’r dyddiad y cafodd Mesur y Gymraeg ei basio gan y Senedd.  Mae'r mesur yn cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg ac yn sefydlu'r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru.  Arweiniodd hyn at sefydlu hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg, neu wella'ch sgiliau Cymraeg presennol, ewch i Iaith Gwaith: Yr Hwb, adran y Staffnet i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr. Yno, gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth werthfawr i ddysgwyr Cymraeg fel adnoddau defnyddiol, gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar y gweill gan Iaith Gwaith yn ogystal â chyrsiau sydd ar gael i ddysgu Cymraeg, am ddim.