Staffnet+ >
Enwebwyd tim Teleofal y Fro ar gyfer Gwobrau MediWales 2022
Enwebwyd tîm Teleofal y Fro ar gyfer Gwobrau MediWales 2022
Enwebwyd y tîm Teleofal ar gyfer Gwobr 'Arloesedd Gofal Cymdeithasol Trwy Gydweithio' am eu prosiect cydweithredol gyda TEC Cymru wrth ddigideiddio system Teleofal y Fro.
Nod y Wobr yw cydnabod sefydliadau sydd wedi cydweithio i arloesi ar brosiect gofal cymdeithasol, sydd wedi arwain at effaith a budd mawr i ddinasyddion.
Cyhoeddodd y diwydiant telathrebu gau'r rhwydwaith teleffoni analog yn y DU erbyn mis Rhagfyr 2025. Gyda dros 99% o ddefnyddwyr teleofal presennol yng Nghymru yn defnyddio eu llinellau tir i gynhyrchu larymau ‘bywyd hanfodol’, mae ymdrech gydlynol ar waith ar draws holl wasanaethau teleofal Cymru i gael eu galluogi'n 'ddigidol'.
Ym mis Rhagfyr 2021, ymrwymodd Cyngor Bro Morgannwg a TEC Cymru i gytundeb cydweithio, gan sicrhau dull cydlynol o symud Canolfan Derbyn Larymau’r Fro i fod yn ddigidol.
Gyda chymorth y Rhaglen Teleofal Genedlaethol a ddarperir gan TEC Cymru, y Fro bellach yw'r cyngor cyntaf yng Nghymru i fudo’i Ganolfan Derbyn Larymau i fod yn ddigidol, a nhw fydd yr arweinwyr nawr i wasanaethau ddilyn.
Mae'r gwasanaeth Teleofal yn allweddol wrth gefnogi preswylwyr sy'n agored i niwed yn eu cartrefi 24/7 gan ddarparu tawelwch meddwl i'w teuluoedd a'u ffrindiau. Mae'r seilwaith teleofal digidol newydd yn caniatáu i ddefnyddwyr gael amrywiaeth ehangach o ddewis mewn offer teleofal, ac yn sicrhau ymateb cyflymach, mwy cadarn i ddinasyddion mewn argyfwng.
Amlygir gwaith gwych ein tîm Teleofal a'r gefnogaeth y maent yn ei ddarparu i'n preswylwyr yn fideo Cyfarchion yr Ŵyl Staffnet eleni.