Coblynnod Siôn Corn yn gweithio’n galed

Santas Elves are at work

Ym mis Tachwedd, lansiwyd 'Achos Siôn Corn', ymgyrch rhoi anrhegion a chodi arian i roi anrheg i bob person ifanc yn y Fro a allai golli allan ar anrheg y Nadolig hwn fel arall.

Dros y mis diwethaf, rydyn ni wedi bod yn derbyn anrhegion a chyfraniadau ariannol. Rydyn ni wrth ein boddau ein bod bellach mewn sefyllfa i roi anrheg i bob plentyn y Nadolig hwn!

Wrth i’r diwrnod mawr agosáu, mae tîm o goblynnod wedi cael y dasg o sortio drwy gannoedd o anrhegion yn y Swyddfeydd Dinesig i sicrhau eu bod yn barod i gael eu danfon mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Gan fwynhau caneuon Nadoligaidd a llawer o fins peis, mae cydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor wedi bod yn brysur yn pacio bag anrhegion ar gyfer pob plentyn.

Toys stacked

Yng ngwir ysbryd y Fro, mae Achos Siôn Corn wedi bod yn ymdrech gydweithredol enfawr.

Ym mis Tachwedd, gwnaethon ni ofyn i gyflenwyr a phartneriaid am eu cefnogaeth. Yn fuan cawson ni lawer o ymatebion brwdfrydig ac ers hynny rydyn ni wedi derbyn anrhegion a chyfraniadau ariannol hael gan lawer o fusnesau lleol: Clwb Pêl-droed Tref y Barri Unedig, The Entertainer - Caerdydd, The Works – y Barri, Romaquip, Watts Truck and Van Centre, Apollo Teaching, Hugh James Solicitors, Twenty4Seven Education, New Directions, CJ Contract Travel Services Ltd, Education Staffing Solutions Limited, LCB, Euro Commercials (South Wales) Limited, Fudge Learning, McCann and Partners, Equal Education Partners, Merricks Transport Ltd, Cymdeithas Tai Newydd, Creigau Travel, Gibson Specialist Technical Services Limited a Parent Pay.

Bydd yr ymdrech ar y cyd gan fusnesau a'n cydweithwyr yn codi gwên ar wynebau nifer o bobl ifanc y Nadolig hwn.

P'un a wnaethoch rannu'r achos ar y cyfryngau cymdeithasol, rhoi anrheg, cyfrannu arian, cynnig eich gwasanaethau neu helpu i gydlynu'r ymgyrch…

Diolch yn fawr gennym ni a channoedd o deuluoedd ledled y Fro!