Staffnet+ >
Achos Sion Corn yn dod i ben ddydd Gwener
Achos Siôn Corn yn dod i ben ddydd Gwener
Wrth i ni ddechrau ar ddyddiau olaf ein hymgyrch Achos Siôn Corn, rydym am ddiolch am haelioni ein staff.

Ers i ymgyrch Achos Siôn Corn gael ei lansio bythefnos yn ôl, rydyn ni wedi cael cefnogaeth enfawr gan gydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor, sydd wedi dod ynghyd i sicrhau nad oes yr un plentyn yn cael ei anghofio y Nadolig hwn. Gwir ysbryd y Fro!
Diolch i haelioni cydweithwyr a phartneriaid, rydyn ni bellach mewn sefyllfa wych i gefnogi ein Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu anrheg i bob plentyn a pherson ifanc yn y Fro a allai gael Nadolig heb roddion fel arall.
Diolch o galon am eich cefnogaeth!
Byddwn yn parhau i dderbyn rhoddion ac arian gan staff tan ddydd Gwener 09 Rhagfyr.

Os ydych am gyfrannu anrheg at Achos Siôn Corn, gallwch wneud hynny drwy ddod ag anrheg heb ei lapio i un o’n pwyntiau gollwng. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am roi anrhegion ar y Dudalen SN+ Achos Siôn Corn.
Fel arall, os hoffech wneud rhodd ariannol i Achos Siôn Corn, gallwch wneud hynny wrth y ddesg arian yn y Swyddfeydd Dinesig.
Gyda chost gynyddol ynni, tanwydd a bwyd, bydd llawer o gydweithwyr yn poeni yn ddealladwy am dalu am eu Nadolig eu hunain ac ni fyddant mewn sefyllfa i gyfrannu at Achos Siôn Corn.
Os ydych am gymryd rhan, gallwch gefnogi Achos Siôn Corn heb unrhyw gost drwy rannu'r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol.
Rydym wedi cynhyrchu cronfa o negeseuon a graffeg cyfryngau cymdeithasol y gallwch eu defnyddio i ledaenu'r gair ymhlith teulu a ffrindiau.
Gan mai ymgyrch staff yw hon, os ydych chi am dynnu sylw at ein hachos gwych ar y cyfryngau cymdeithasol, gwnewch hi'n glir i deulu a ffrindiau y dylent gyfrannu drwyddoch chi os ydyn nhw am wneud hynny.
Ni fydd aelodau'r cyhoedd yn gallu dod ag anrhegion a/neu wneud taliad arian parod.
Lawrlwytho Pecyn Adnoddau Achos Siôn Corn
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am roi anrhegion ar y dudalen SN+ Achos Siôn Corn:
Achos Siôn Corn