Staffnet+ >
Archwilio dyfodol gweithio a byw yn y Fro gyda'r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol.
Archwilio dyfodol gweithio a byw yn y Fro gyda’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol.
Mae Tom Bowring yn ymuno â Lloyd Davies yn y Caffi Dysgu i drafod y Cynllun Cyflawni Blynyddol drafft (CCB) yn ystod y sesiwn hon. Mae’n sôn am ei rôl, y CCB, ei berthnasedd, heriau allweddol a sut y gall staff ddylanwadu ar y cynllun.
Os ydych yn gwylio'r fersiwn a recordiwyd, byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio munud neu ddwy yn cwblhau'r ffurflen werthuso Caffi Dysgu yn ddienw isod. Recordiwyd y sesiwn yn fyw ar 14 Rhagfyr 2022.
Cliciwch yma i lenwi'r ffurflen werthuso
Mae gwybodaeth isod am rai o'r pynciau dan drafodaeth yn y sesiwn:
Cynllun Cyflawni Blynyddol Drafft
I weld drafft Cynllun Cyflawni Blynyddol a/neu lenwi'r ffurflen ymgynghori - Cliciwch Yma
Os hoffech gysylltu â Tom am y Cynllun Cyflawni Blynyddol drafft neu unrhyw beth arall a drafodwyd yn y sesiwn hon, anfonwch e-bost ato'n uniongyrchol tbowring@valeofglamorgan.gov.uk
Rhwydwaith Caffi Dysgu
Bydd y Caffi Dysgu yn troi'n rhwydwaith yn gynnar yn 2023 - Os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech gofrestru diddordeb mewn ymuno, e-bostiwch LearningCafe@valeofglamorgan.gov.uk
diweddariad iDev
Mae iDev all-lein ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol tan Ionawr 2023.
Adnoddau Costau Byw
Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bob un ohonom, a gyda'r cynnydd mewn biliau ynni a chostau byw hanfodol eraill eleni, mae'r rhan fwyaf o bobl yn mynd i deimlo'r effaith ar eu cyllid. Gallwch ddod o hyd i adnoddau all eich helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn ar staffnet a’n gwefan allanol. Mae’r dolenni isod.
Tudalennau Costau Byw Mewnol
Tudalennau Costau Byw Allanol
Neges gan y Prif Weithredwr ar gyhoeddiad ariannu Llywodraeth Cymru
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023/2024 ddydd Mawrth 13 Rhagfyr. Fel rhan o hyn dyrannodd y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, £227m ychwanegol i gynghorau ledled Cymru.
Gallwch ddarllen neges gan y Prif Weithredwr ar y pwnc yma.