Staffnet+ >
Dyddiad Cau Cyflwyno Straeon Windrush Yn Agosáu
Dyddiad Cau Cyflwyno Straeon Windrush Yn Agosáu
I goffáu yr HMT Empire Windrush yn 75 oed yn 2023, rydym yn creu cofnod digidol o straeon a lluniau gan drigolion ledled Bro Morgannwg.
Mae'r coffáu yn ceisio anrhydeddu'r bobl a ddociodd gyntaf yn Tilbury ar long yr HMT Empire Windrush ym 1948. Daeth dros 800 o'r teithwyr o'r Caribî ond roedd eraill o India, Pacistan, Cenia a De Affrica.
Os colloch chi ein stori newyddion wreiddiol, rydym yn lansio'r prosiect 'Storïau Cenhedlaeth Windrush ym Mro Morgannwg' ac am glywed lleisiau'r rheiny a deithiodd i'r DU o'r Gymanwlad ac ymsefydlu yng Nghymru (cyn ac ar ôl 1948).
Drwy'r storïau hyn, rydym am ddathlu cyfraniadau a gwaddol amhrisiadwy cenhedlaeth gyntaf ac ail genhedlaeth y Windrush i bob agwedd ar fywyd ym Mhrydain.
Os ydych chi'n gwybod am unrhyw un sydd â stori am ymfudo, anogwch nhw i gyflwyno eu mynegiant o ddiddordeb erbyn Dydd Gwener 23 Rhagfyr 2022.
Gellir e-bostio mynegiant o ddiddordeb at windrush@valeofglamorgan.gov.uk