Staffnet+ >
Cynnig Benthyciad Nadolig gan Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro
Cynnig Benthyciad Nadolig gan Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro
Y Nadolig hwn, mae Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro wedi llunio gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch cymorth sydd ar gael ar gyfer rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu costau'r Nadolig a chostau byw cynyddol.

Nadolig 2022
Gallech chi arbed cannoedd o bunnoedd mewn llog y Nadolig hwn drwy newid o fenthycwyr llog uchel a gorddrafft i Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro.
- Dim cosbau am ad-dalu’n gynnar a dim ffioedd cudd
- Gellir ad-dalu ac arbed drwy archeb sefydlog, o’ch cyflog neu eich taliadau Budd-dal Plant
- Cais symlach i'r rhai sy'n gwneud cais am hyd at £500 (benthyciadau mwy hefyd ar gael)
- Disgownt ar gael i aelodau presennol a chyflogres - mae cyfraddau safonol gwych ar waith i bob ymgeisydd arall
- Gwnewch gais ar-lein gan ddefnyddio ein cais benthyciad - os byddai'n well gennych gael cais papur drwy’r post, anfonwch e-bost aton ni ccu@cardiffcu.com
Benthyciad gyda'r Undeb Credyd Eisoes?
Os oes gennych fenthyciad eisoes a'ch bod wedi ad-dalu o leiaf 25% (neu draean os mai hwn yw eich benthyciad cyntaf gyda ni) rydych yn gymwys i wneud cais am fenthyciad arall. Os ydych chi wedi cael eich gwrthod am fenthyciad gan Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro yn y 3 mis diwethaf, ffoniwch cyn gwneud cais i gadarnhau a ydych yn gymwys.
Cyfeiriwch Ffrind
Llenwch ffurflen 'cyfeirio ffrind' a’i chyflwyno ynghyd â'ch cais am fenthyciad, ac os yw'r cais am fenthyciad yn llwyddiannus, byddwch chi a'ch ffrind yn cael £10 yr un wedi ei gredydu i'ch cyfrifon undeb credyd (Mae telerau ac amodau yn berthnasol).
Costau Byw
Mae nifer ohonom yn pryderu am y cynnydd mewn costau ynni y gaeaf hwn, a fydd yn effeithio ar ein cyllid. Mae Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro yn cynghori aelodau nad ydyn nhw'n cynilo’n rheolaidd ar hyn o bryd, i ddechrau cynilo nawr os gallan nhw, i’w diogelu rhag y costau uwch sydd o'n blaenau. Mae rhagor o fanylion ar wefan Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro.
Os oes gennych fenthyciad gydag Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro ac yn poeni na fyddwch yn gallu fforddio eich ad-daliadau presennol, ffoniwch i siarad ag aelod o'r tîm.
Mae Tîm Cyngor Ariannol Cyngor Caerdydd sydd wedi'u lleoli yn Hyb y Llyfrgell Ganolog yn cynnig cyngor am arian am ddim i drigolion Caerdydd. Mae Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro yn gweithio gyda nhw i fynd i'w sioeau teithiol arbed arian sydd yn yr arfaeth ledled Caerdydd dros y misoedd nesaf.
Mae Dŵr Cymru'n cynnig amrywiaeth o dariffau i rai sy'n derbyn budd-daliadau neu ar incwm isel. Edrychwch ar eu gwefan i weld pa help sydd ar gael.