Staff Awards 2022 Email Banner Cym

Tocynnau'n gwerthu'n gyflym ar gyfer y Gwobrau Staff

Wrth i'r Gwobrau Staff agosáu, mae tocynnau'n gwerthu'n gyflym.

Mae'r gwobrau yn cael eu cynnal yng Ngwesty'r Fro, Hensol ddydd Gwener 30 Medi 2022.

Mae tocynnau'n costio dim ond £10 y pen, gyda byrddau am ddeg person ar gael am bris gostyngol o £80, i gyd wedi’i wneud yn bosibl drwy roddion caredig gan ein noddwyr.  Mae’r pris yn cynnwys:

18:30 - Cyrraedd a derbyniad diodydd

19:00 - Croeso i'r digwyddiad

19:15 Gwobrau – Rhan I

20:15 Swper (2 gwrs ynghyd â gwin ar fyrddau)

21:30 - Gwobrau – Rhan II

22:30 - Disgo

00:00 - Diolch a nos da

Llenwch y ffurflen isod i archebu eich tocynnau a'u hanfon at chiefexecutive@valeofglamorgan.gov.uk - bydd eich cais wedyn yn cael ei ddidoli a chaiff cais am daliad ei gyhoeddi.

Ffurflen tocynnau

Cyhoeddir E-Docynnau yn nes at y dyddiad a gellir talu yn eich lleoliad dewisol drwy gysylltu â'r swyddogion perthnasol, fel y nodir isod:

  • Cyfarwyddiaeth Amgylchedd a Thai/ Yr Alpau - Jo Lewis

  • Dysgu a Sgiliau/Swyddfeydd Dinesig - Mark Davies

  • Gwasanaethau Cymdeithasol/ Swyddfeydd y Dociau - Andy Cole

  • Prif Weithredwr ac Adnoddau Corfforaethol/Swyddfeydd Dinesig - Angela Bobbett

Sylwch mai dim ond arian parod fydd yn cael ei dderbyn ac ni allwch gadw tocynnau.