Staff awards nominees

Cwrdd â'ch enwebeion ar gyfer y Gwobrau Staff 

Mae'r gwobrau eleni yn agosáu, ac rydym yn falch o gyflwyno rhai o'r enwebeion.

Mewn ychwanegiad newydd cyffrous i'r gwobrau, bydd ein noddwyr yn dewis enillydd ar gyfer y categori Dathlu Amrywiaeth ac Ymgysylltiad. 

Ymunodd Amy Auton â’r Tîm Cyfathrebu fel y Golygydd Gwe newydd fis Tachwedd diwethaf. 

Mae hygyrchedd ar y we yn rhan allweddol o'r gwaith o sicrhau bod pawb mewn cymdeithas yn gallu cael mynediad at swyddi, tai, dysgu a chefnogaeth. Er efallai nad yw'r gwelliannau y mae Amy wedi'u gwneud yn weladwy i'r rhan fwyaf, maen nhw'n newid bywydau'r rhai sydd angen eu defnyddio.

Meddai Amy, "Dwi'n llawn cyffro o gael fy ngosod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr. Mae 1 o bob 5 o bobl yn y DU yn profi anabledd parhaol neu dros dro ac mae'r gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau ar-lein yn gallu cael eu defnyddio gan bawb. Rydym eisoes wedi cynyddu ein sgôr hygyrchedd ar y Mynegai Silktide o 52 i 92, a dwi’n edrych ‘mlaen at adeiladu ar hyn."

Hefyd wedi’i henwebu mae Georgia Young a’r prosiect FI YW FI. Clwb ieuenctid ar gyfer pobl ifanc LHDTC+ a chynghreiriaid yw FI YW FI, sydd â’r nod o greu mannau diogel i fynegi eu hunain ac archwilio eu hunaniaethau. Maen nhw'n cynnig hyfforddiant LHDTC+ ar bynciau fel perthnasoedd iach, diogelwch ar y we a magu hyder. 

Mae’r Tîm HSW hefyd wedi cael eu henwebu am eu rôl yn hyrwyddo diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol o fewn y Gwasanaethau Cymdogaeth a dod o hyd i ffyrdd o gydnabod gwaith mawr eu cydweithwyr.

Rydym hefyd yn falch o gynnwys Martine Coles ar y rhestr enwebu. Mae Martine wedi gweithio'n ddiflino i ddatblygu Rhwydwaith Amrywiaeth y Cyngor - y cyfan wedi ei wneud yn ei hamser ei hun. 

Yn dychwelyd i'r seremoni eleni mae’r Wobr Seren Newydd. Dyma un o'r categorïau mwyaf poblogaidd, gyda 17 o gynigion i gyd.
Daeth Elliot Pottinger yn aelod o'r tîm Chwaraeon a Chwarae yn 2021. Mae ei brosiect Tocyn Aur bellach wedi ymgysylltu â dros 400 o breswylwyr 60+, gan eu helpu i gael mynediad at weithgareddau ac elwa ar fod yn gorfforol egnïol.

Mae Elliot hefyd wedi wynebu ei heriau personol ei hun, ar ôl cael diagnosis o ganser y coluddyn. Mae Elliot wedi parhau i weithio trwy gydol ei driniaeth ac wedi cael gwybod yn ddiweddar bod ei brif diwmor wedi lleihau'n sylweddol. 

Meddai, "Rydw i wir wedi mwynhau bod yn rhan o’r Tîm Byw'n Iach dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae'n anrhydedd cael fy enwebu ar gyfer y wobr. Mae'r prosiect Tocyn Aur wedi helpu trigolion i fod yn egnïol a theimlo'n well yn eu bywyd o ddydd i ddydd. Diolch i'r holl Ddarparwyr Gweithgareddau a Phartneriaid Atgyfeirio sydd wedi gwneud y prosiect yn llwyddiant." 

Mae Emily Dobson wedi ennill lle ar restr fer y wobr hefyd. Ar ôl ymuno â'r Cyngor ar sail profiad gwaith, cafodd Emily ei dyrchafu’n gyflym i Gynorthwy-ydd Adfywio. Ers hynny mae wedi taflu ei hun i mewn i’w gwaith, gan ddangos arbenigedd go iawn o ran ymgysylltu cymunedol a delio â busnesau yn ystod y pandemig.

Mae ein henwebiadau eraill yn cynnwys Rachel Protheroe a Megan Schlogl. Mae Rachel, sy'n gweithio yn y Gwasanaethau Cofrestru, wedi lansio amrywiaeth o wasanaethau newydd, gan gynnwys y safle Eich Seremoni yn y Fro.

Mae Megan wedi bod gweithio yn CYPS ers 7 mlynedd, gan ddechrau fel Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes a symud ymlaen i fod yn Swyddog Gofal Cymdeithasol. Mae ei hangerdd wedi ei harwain at hyfforddiant i fod yn Weithiwr Cymdeithasol drwy'r Brifysgol Agored.