Wythnos pedwar o Milltiroedd ar gyfer Wcráin

Ukraine - SN Banner

Ar 5 Ebrill, cyflawnwyd y targed o 1,775 milltir, a daeth y daith yn ôl i’r Barri yn her newydd. 

O heddiw, rydym wedi teithio 2,337.34 milltir ar ein taith rithwir i Wcráin. Gyda dim ond 1,212 ar ôl!

Hyd yma, mae eich rhoddion a'ch ymdrechion i godi arian wedi codi £1,559.

Ers i'r rhyfel ddechrau, mae ysgolion o bob rhan o'r Fro wedi trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian, gan gynnwys gwerthu cacennau, teithiau beic noddedig, casglu rhoddion, gwerthu bandiau  arddwrn, tawelwch noddedig, a diwrnodau gwisgo dillad glas a melyn.

Hyd yn hyn, mae cyfanswm o 14 o ysgolion wedi codi'r swm  anhygoel o £10,357 at yr achos.

Yr ysgolion sy’n cymryd rhan yw:

  • Ysgol Gynradd yr Holl Saint, Y Barri

  • Ysgol Uwchradd Whitmore, Y Barri

  • Ysgol Gynradd Holltwn, Y Barri 

  • Ysgol Gynradd Palmerston, Y Barri

  • Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, Y Barri

  • Ysgol Gynradd Llanbedr-y-fro, Caerdydd

  • Ysgol Gynradd Cogan, Cogan

  • Meithrinfa Cogan, Cogan

  • Ysgol Gyfun y Bont-faen, Y Bont-faen

  • Ysgol Iolo Morganwg, Y Bont-faen

  • Ysgol Gynradd Llangan, Y Bont-faen

  • St Illtyd Primary School, Llantwit Major

  • Ysgol Gynradd Victoria, Penarth

  • Ysgol Stanwell, Penarth

Bydd yr arian y mae'r Ysgolion a'r Cyngor wedi'i godi yn cael ei roi i Bwyllgor Argyfwng Trychinebau Apêl Dyngarol Wcráin i helpu i ddarparu noddfa, bwyd, dŵr a hanfodion eraill i'r rhai sy'n dianc rhag y rhyfel.

Lluniau o'ch taith

Rydych wedi bod yn brysur yn cerdded, beicio a rhedeg eich ffordd i Wcráin a'r wythnos hon mae llawer ohonoch wedi mynd â'ch cyfarfodydd tîm wrth fynd i gloi'r milltiroedd.

 

Gall unrhyw un gymryd rhan i gwblhau ein taith rhithiwr, boed hynny chi ar eich pen eich hun, gyda'ch tîm, neu fel rhan o ysgol ym Mro Morgannwg.

Cofnodwch eich milltiroedd a gwnewch rodd drwy ein hyb Milltiroedd ar gyfer Wcráin

Cofiwch rannu eich ymdrechion a'r Tudalen Just Giving gyda ffrindiau a theulu!