Staffnet+ >
Cyhoeddi categorïau Gwobrau Staff!
Cyhoeddi categorïau Gwobrau Staff!
Ar ôl bwlch o 3 blynedd, rydym yn falch o gyhoeddi'r categorïau ar gyfer y Gwobrau Staff eleni.
Mae'r categorïau wedi'u hadnewyddu i adlewyrchu ein Gwerthoedd Gweithwyr, y Cynllun Corfforaethol a Phum Dull o Weithio Llywodraeth Cymru (5DOW), yn ogystal â dathlu ymroddiad ac ymrwymiad staff, ar ôl dwy flynedd hynod heriol.
Oherwydd absenoldeb y gwobrau yn 2020 a 2021, gellir enwebu ar gyfer gwaith a wnaed ers y digwyddiad gwobrwyo diwethaf a gynhaliwyd yn rhan olaf 2019. Rydym yn croesawu pob cais, p'un a ydych yn enwebu cydweithiwr yn eich cyfarwyddiaeth eich hun, neu rywun rydych wedi gweithio gydag ef ar draws y Cyngor mewn rhan arall o'n sefydliad.
Fel yn y blynyddoedd blaenorol, bydd y digwyddiad gwobrwyo yn cael ei gynnal heb gost i drigolion Bro Morgannwg. Mae hyn oherwydd haelioni amrywiaeth o noddwyr, sydd wedi'u rhestru isod yn erbyn pob categori.
Categorïau Ein Harwyr
Mae'r enwebiadau hyn yn benodol i bob cyfarwyddiaeth/ysgol a'u nod yw cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r sefydliad, yr ysgol, y gymuned neu i dinasyddion.Dylai'r enwebiad dynnu sylw at y cyfraniad a wnaed a'r effaith y mae hyn wedi'i chael, gan nodi sut mae'r enwebai wedi gweithio yn unol â'n gwerthoedd a'n hamcanion llesiant.
Rydym am weld sut mae staff a thimau wedi croesawu ffyrdd trawsnewidiol, arloesol a chreadigol o weithio. Gallai'r cyfraniad fod ar gyfer prosiect penodol, ymateb pandemig, mynd y filltir ychwanegol yn eu rôl neu wasanaeth cwsmeriaid eithriadol.
- Arwr Amgylchedd a Thai - Noddwr Tarmac
- Arwr Adnoddau - Noddwr Morgan Sindall
- Arwr Gwasanaethau Cymdeithasol - Noddwr i'w gadarnhau
- Arwr Dysgu a Sgiliau - Noddwr ISG
- Arwr Ysgolion - Noddwr ABM
- Arwr yr Arwyr - Noddwr DairyLink
Categorïau ehangach
Mae'r categorïau'n agored i'r holl staff, ac eithrio'r categori 'Ysgolion, Creu Effaith', sydd wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n gweithio yn ein hysgolion.
Seren Sy'n Codi – Noddwr Centregreat
Mae hwn yn canolbwyntio ar gyflawniadau ein sêr sy'n codi; y genhedlaeth nesaf o arweinwyr, y rhai sy’n creu newid a meddylwyr trawsnewidiol. Gallai enwebiadau fod o grŵp oedran 16-24, kickstarters, prentisiaid neu raddedigion, ond nid ydynt wedi'u cyfyngu i’r rheiny.
Tîm y Flwyddyn – Noddwr BYUK
Gall enwebiadau fod gan dimau ar draws y Cyngor, gall hyn gynnwys ysgolion, timau disylw a thimau traws-swyddogaethol neu dimau 'rhithwir' sydd wedi'u sefydlu i ddelio â mater neu brosiect penodol neu i ymateb iddo.
Partneriaeth Allanol Orau – Noddwr Parentpay
Mae'r wobr hon yn ceisio cydnabod cyfraniad ehangach gwaith partneriaeth allanol. Gall enwebiadau gynnwys mentrau sy'n rhychwantu partneriaid yn y sector cyhoeddus, cydweithio, y trydydd sector a grwpiau cymunedol.
Ysgolion, Creu Effaith – Noddwr Castell Howell
Mae'r wobr hon yn benodol i'r rhai sy'n gweithio yn ein hysgolion a'i nod yw cydnabod cyfraniad ein hysgolion yn y gymuned ehangach.
Dathlu Amrywiaeth ac Ymgysylltu – Noddwr AECOM
Mae'r wobr hon yn cydnabod y rhai sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y Cyngor a chroesawir enwebiadau ar gyfer aelodau unigol o staff neu dimau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn ogystal ag ymgysylltu ehangach ar draws y sefydliad.
Effaith Ar y Gymuned – Noddwr Zipporah
Rydym yn chwilio am dimau/unigolion sydd wedi cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan fynd i'r afael â materion fel tlodi bwyd, iechyd meddwl a lles neu effaith y pandemig, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rheiny.
Prosiect Sero – Noddwr Romaquip
Mae'r wobr hon yn cydnabod cyfraniad unigolyn, tîm neu fenter sy'n helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd. Dylai’r cyfraniad ddangos arferion trawsnewidiol, gostyngiad neu ostyngiad a ragwelir mewn allyriadau carbon a cheisio cefnogi nodau ehangach Prosiect Sero.
Bydd y ffenestr enwebu yn agor ar 25 Ebrill a bydd yr holl ffurflenni a manylion llawnach am y gwobrau ar gael erbyn y dyddiad hwn.