Staffnet+ >
Ricky Mountjoy yn dathlu 50 Mlynedd o Wasanaeth
Ricky Mountjoy yn dathlu 50 Mlynedd o Wasanaeth
19 Ebrill 2022
Mae cydweithiwr o Dîm Glanhau’r Cyngor yn dathlu 50 mlynedd o wasanaeth parhaus.
Dechreuodd Ricky Mountjoy ei yrfa gyda Chyngor Bro Morgannwg yn 19 oed, yn cadw strydoedd Penarth yn lân y tu ôl i olwyn ysgubwr ffyrdd i ddechrau.
Yna symudodd i ganol y dref i lanhau, a daeth yn boblogaidd yn gyflym gyda'r cyhoedd a pherchnogion busnes lleol.
Wedi'i ddisgrifio’n ddyn ‘mor gryf â bustach’, mae Ricky wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau ei swydd erioed.
Cysylltodd masnachwyr lleol â Chyngor Tref Penarth i ofyn am gydnabod gwaith caled dyddiol Ricky, ac o ganlyniad dyfarnwyd Gwobr Dinasyddion Eithriadol iddo ym mis Chwefror 2017.
Yn sgil yr anrhydedd hwn hefyd rhoddwyd rhyddid tref Penarth iddo gan y Maer Mike Cuddy mewn seremoni a fynychwyd gan Gynghorwyr Tref Penarth.
Nid gyda’r Cyngor yn unig y mae Ricky’n gweithio’n galed. Mae wedi treulio dros 20 mlynedd yn gwirfoddoli gydag Ymchwil Canser, yn gadael y tŷ yn rheolaidd am 3am i gasglu rhoddion i'r elusen cyn dechrau gweithio.
Y tu allan i'r gwaith, mae Ricky wrth ei fodd yn chwarae Bowls Ffrengig ac yn mynychu ei eglwys leol ym Mhenarth bob dydd Sul.
Yn ogystal â chyrraedd carreg filltir 50 mlynedd o wasanaeth, bydd Ricky hefyd yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed cyn bo hir.
Yn ogystal â’i boblogrwydd ymhlith trigolion Penarth, mae cymdogion Ricky hefyd yn dwlu arno, ac yn dweud ei fod yn fodlon helpu pawb, gydag unrhyw beth. Bydd yn helpu gyda gwaith garddio trwm yn aml.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Glanhau Tony Spear: "Mae Ricky yn un o'r dynion mwyaf gweithgar a dibynadwy rwyf wedi cael y pleser o'u hadnabod. Mae ganddo record ragorol ac mae bob amser yn hapus i fwrw ymlaen â'i swydd heb unrhyw ffwdan na phroblemau.
"Mae Ricky yn hynod boblogaidd ymhlith ei holl gydweithwyr ac mae'n hysbyseb berffaith i'r Cyngor."