Gwirfoddolwyr yn eisiau ar gyfer Cynllun y Pod Bwyd

Ar hyn o bryd mae ein tîm Tai yn recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer y Pod Bwyd newydd ei sefydlu ym Mhenarth.

Mae'r cynllun yn cynnig nwyddau tun a darfodus i breswylwyr, nwyddau ymolchi a chynhyrchion hylendid ar sail talu fel y mynnwch. Y nod yw mynd i'r afael â gwastraff bwyd a chefnogi cymunedau lleol sydd wedi wynebu heriau mawr yn ystod y pandemig.

Mae’r pod i’w gael yn ystâd St Luc ac mae’n gweithredu mewn partneriaeth â gwirfoddolwyr o Helping Hands a Chymdeithas Trigolion STAR.
Mae ar agor ar ddydd Llun a dydd Gwener rhwng 2pm a 4pm. 

Gan godi proffil gwaith y pod bwyd a'r Rhaglen Llechen Lân i wneud y rhan hon o Benarth yn fwy cysylltiedig, yn wyrddach, yn lanach ac yn iachach.

Mae’r rôl yn cynnwys::

  • Helpu trigolion i 'siopa' yn y Pod Bwyd.

  • Derbyn rhoddion bwyd.

  • Rhoi nwyddau ar y silffoedd ac yn yr oergelloedd a’r rhewgelloedd.

  • Cynnal stoc a chofnodion.

  • Gweithio fel rhan o dîm.

  • Gyrru i gasglu rhoddion yn ôl yr angen (ddim yn hanfodol).

Mae gwirfoddolwyr hefyd yn cael cyfle i ennill y cymhwyster Diogelwch Bwyd Lefel Dau yn rhad ac am ddim.

Rhaid ichi allu ymrwymo un diwrnod yr wythnos, dydd Llun neu ddydd Gwener 1-3pm. Mae ymrwymiad o leiaf 12 mis a bydd disgwyl i chi wneud hyfforddiant sefydlu gwirfoddolwyr cyffredinol a hyfforddiant a datblygiad parhaus.

Mae hefyd cyfle i gael credydau Bancio Amser.

I gofrestru eich diddordeb cysylltwch â:
Mark Ellis - Swyddog Cyfoethogi a Chyfranogiad Cymunedau

  • 07826 020707
  • markellis@valeofglamorgan.gov.uk