Chwilio am wirfoddolwyr i brofi meddalwedd newydd

Mae Cysylltiadau Cwsmeriaid yn chwilio am staff sy'n fodlon gwirfoddoli i helpu i brofi ffurflenni ar-lein newydd cyn eu lansio i aelodau'r cyhoedd roi gwybod am faterion neu wneud ceisiadau.

13 Medi, 2021

Mae paratoadau ar y gweill i lansio system Profiad Cwsmer Digidol newydd y Cyngor ar gyfer delio ag ymholiadau cwsmeriaid. Bydd hwn yn cael ei gynnal trwy blatfform Granicus, Gov Service.

Rydym am sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau posibl i'n cwsmeriaid o gael mynediad i'n gwasanaethau.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu i brofi'r broses adrodd neu ofyn ar-lein, cyn iddo fynd yn fyw i aelodau'r cyhoedd.

Nid ydym yn chwilio am unrhyw sgiliau neu wybodaeth arbennig, dim ond rhywfaint o frwdfrydedd dros wella ein gwasanaethau ac ychydig o'ch amser.

Os ydych chi'n barod i gymryd rhan, cwblhewch y ffurflen fer hon i gofrestru'ch diddordeb.

Yna byddwn mewn cysylltiad â mwy o fanylion ar sut y gallwch chi helpu.

Y nod yw lansio'r system newydd cyn diwedd y flwyddyn.