Canolfan Ddysgu'r Fro yn rhedeg Ras Am Oes

Cymerodd staff o Ganolfan Ddysgu'r Fro ran yn Ras am Oes Ymchwil Canser y penwythnos hwn, gan godi cyfanswm o £1710.

Cwblhaodd y tîm y ras er cof am Emma Evans, Cydlynydd Sgiliau Hanfodol y ganolfan, a fu farw ym mis Mawrth 2020.

Yn ystod ei chyfnod yn y ganolfan, helpodd Emma gannoedd o ddysgwyr i gyflawni eu nodau o gael achrediad fel tiwtor a chydlynydd. 
Cwblhaodd naw aelod o staff y ras, a gynhaliwyd ym Mharc Bute. Y Ras am Oes yw cyfres fwyaf Cancer Research UK o ddigwyddiadau codi arian. Yn cael eu cynnal ledled y DU, mae'r digwyddiadau'n cynnwys llwybrau 5k a 10k i gyfranogwyr eu cerdded, eu loncian neu eu rhedeg, yn ogystal â digwyddiadau rhwystrau.

Dychwelodd y digwyddiad ffisegol eleni, ar ôl cael ei ohirio oherwydd cyfyngiadau Covid.

Dywedodd Phil Southard, rheolwr Emma: "Roedd Emma yn arbennig. Roedd ei dysgwyr yn ei charu ac felly hefyd ei chydweithwyr. Roedd cwblhau'r ras a chodi'r arian yn ei henw yn ymddangos fel ffordd addas o'i chofio a helpu i achub eraill."

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: "Roedd hyn yn weithred deimladwy gan gydweithwyr Emma a oedd am wneud rhywbeth cadarnhaol i anrhydeddu ei chof.

"Mae'n dangos y parch at Emma a'r cysylltiad cryf sy'n bodoli rhwng aelodau tîm Canolfan Ddysgu'r Fro.

"Hoffwn longyfarch y rhai a gymerodd ran a mynegi fy ngwerthfawrogiad o’r arian a godwyd ganddynt. Rwy'n siŵr y bydd hynny'n gwneud llawer i helpu eraill sy'n cael eu hunain mewn amgylchiadau heriol." 

Gall staff ddal i gyfrannu trwy'r dudalen codi arian.

Cyfrannu