infuse logo bilingualMae Infuse yn chwilio am arweinwyr y dyfdol sy'n awyddus i wella gwasanaethau cyhoeddus 

Ymunwch â charfan ddeinamig o wneuthurwyr o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddysgu, adeiladu a rhwydweithio i greu gwasanaethau arloesol y dyfodol.

20 Medi, 2021

Mae Infuse wedi'i sefydlu i greu gwasanaethau arloesol yn y dyfodol yn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd; boed hynny’n golygu mynd i’r afael â’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu i ddiwallu anghenion newidiol y rhanbarth, neu ymdrin â’r agenda datgarboneiddio sy’n cyflymu i fodloni ymrwymiad Cymru i sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.

Beth mae'r rhaglen yn ei gynnwys?

Dros chwe mis, bydd swyddogion yn cwblhau sesiynau wedi'u hwyluso gan arweinwyr y sector sydd ar y blaen gyda’n heriau mwyaf. Bydd arbenigwyr yn eu maes yn rhannu enghreifftiau o arfer da o bob rhan o’r byd ac yn archwilio sut y gallwn addasu neu fabwysiadu’r syniadau hyn i ddiwallu ein hanghenion.

Ochr yn ochr a hyn bydd cyfranogwyr yn arbrofi a phrofi syniadau yn ein swyddi bob dydd, y prosiect haf, gyda chymorth a chefnogaeth drwy’r cyfan. 

Ar ddiwedd y rhaglen, byddwch yn ymuno â rhwydwaith gyffrous o cyn-gyfranogwyr Infuse, fydd yn parhau i newid y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yn y rhanbarth.

Beth sydd gan gyfranogwyr i'w ddweud?

“Mae'r rhaglen Infuse hyd yma wedi bod yn brofiad dwys ond cyfoethog, rydyn ni nawr hanner ffordd trwy'r garfan chwe mis. Mae'r rhaglen i gyd wedi'i darparu ar-lein, ond mae wedi bod yn gymysgedd amrywiol o ddarlithoedd, gweithdai, trafodaethau, gwaith grŵp, ac un i un, ac mae wedi ymdrin ag ystod eang o bynciau ac offer ond i gyd o fewn dwy thema pwnc Cymunedau a Datgarboneiddio, ac mae gan bob un ohonynt gysylltiadau uniongyrchol â rôl pawb yn y Cyngor, felly does dim ots os nad yw'r themâu hynny'n ymddangos yn berthnasol ar y dechrau. Mae'r sesiynau a hwylusir yn gymharol ddamcaniaethol, ond ochr yn ochr â hyn rydych chi'n dewis her yn y gwaith i weithio arni felly mae'n dod yn hynod berthnasol a defnyddiol i'ch gwaith bob dydd. Yn nodweddiadol byddwch chi'n treulio un diwrnod yr wythnos ar ddysgu, ac un diwrnod yr wythnos ar weithredu yn eich swydd feunyddiol.

“Yn bersonol, rydw i wedi cymryd gwerth mawr o gwrdd ac ymgysylltu â swyddogion eraill o’r holl awdurdodau lleol ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae yna lawer o gyfle i drafod heriau go iawn rydyn ni i gyd yn eu hwynebu, a thrafod atebion posib yn seiliedig ar brofiadau a syniadau pobl. Hefyd, mae gan y siaradwyr a'r hwyluswyr brofiad helaeth i dynnu arno ac o'r herwydd, mae gen i ddiddordeb mawr mewn clywed am rannau eraill o'r DU a thu hwnt a sut maen nhw'n mynd i'r afael â'r heriau rydyn ni hefyd yn eu hwynebu yn y Fro.

"Yn gyffredinol, mae'r rhaglen wedi bod yn heriol yn ddeallusol, yn ysgogol yn broffesiynol ac yn rhoi boddhad personol. Ni ddylid tanamcangyfrif y buddsoddiad amser, ond rwyf hefyd o'r farn y bydd yr amser a dreulir yn y rhaglen yn fuddsoddiad da i mi a'r Cyngor yn gyffredinol." - Nicola Sumner-Smith

Darganfod mwy a cymryd rhan

Gweler y daflen, isod, i gael mwy o wybodaeth neu ewch i www.monmouthshire.gov.uk/infuse 

Os hoffech chi gymryd rhan yn y rhaglen, cysylltwch â Christina Martin erbyn 24 Medi:  christinamartin@monmouthshire.gov.uk

Taflen Infuse