Helpwch i ddatblygu ein hagenda cynhwysiant: ymunwch â’r rhwydwaith staff Amrywiol

Fel rhan o Wythnos Cynhwysiant 2021, rydym yn annog cydweithwyr i feddwl am newidiadau y gallwch eu gwneud i amrywio eich safbwynt o ran hil a chael dealltwriaeth o brofiadau na fyddech efallai wedi dod i gysylltiad â nhw o'r blaen, drwy rannu profiadau ac adnoddau addysgol.

28 Medi, 2021

Nid yw'n ddigon erbyn hyn i beidio â bod yn hiliol. Rhaid i ni fod yn wrth-hiliol. Mae digwyddiadau dros y 12-18 mis diwethaf wedi amlygu pa mor anferthol o bwysig yw cynnal sgyrsiau dewr am hil, yn ogystal â’r dealltwriaeth bod dysgu ac addysgu ein gilydd i fod yn wrth-hiliol yn gyfrifoldeb arnom ni i gyd.

I ddeall mwy am beth yw bod yn wrth-hiliol mewn gwirionedd, darllenwch y blog hwn.

Beth yr ydym yn ei wneud i newid hyn yn weithredol? A allem wneud mwy dros ein ffrindiau, ein teulu a'n cydweithwyr? Sut rydym yn herio ideolegau anghywir a hiliaeth systemig ein cymdeithas?

Diverse Staff Network

Ymunwch â Rhwydwaith Amrywiaeth y Staff: Mynnwch Lais. Crëwch Newid. Gwnewch wahaniaeth. 

Mae Rhwydwaith Amrywiaeth y Staff (Rhwydwaith Lleiafrifoedd Ethnig gynt) yn gam cadarnhaol i'n sefydliad o ran hyrwyddo gweithle cynhwysol sy'n dathlu ei gymuned a'i weithlu amrywiol.  

Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad gloywi rhithiwr ar 29 Medi rhwng 2.00pm a 3.30pm.Os hoffech ddod yn aelod o Rwydwaith Amrywiaeth y Cyngor, cwblhewch y ffurflen aelodaeth:

 
Ffurflen Aelodaeth 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r rhwydwaith ar: Diverse@valeofglamorgan.gov.uk