A allai eich prosiect elwa o gymorth drôn?

Mae gan y gwasanaethau adeiladau wasanaeth drôn sydd wedi helpu llawer o dimau yn y gorffennol gyda phrosiectau amrywiol

06 Medi, 2021

DroneDechreuodd y gwasanaeth i ddechrau drwy gynnig arolygon o'r awyr o adeiladau, er mwyn arbed cwmnïau rhag gorfod codi sgaffaldiau i wirio eu toeau. Ond ers ei sefydlu yn 2018, mae'r gwasanaeth wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer ystod ehangach o brosiectau. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • awyrluniau ar gyfer y tîm gorfodi;

  • clip fideo o ddisgyblion ar ffurf rhuban gwyn, ar gyfer yr ymgyrch genedlaethol;  

  • lluniau o'r awyr o'r Fro ar gyfer fideos;

  • clip o'r celf tywod yn Ynys y Barri;

  • cefnogi gyda digwyddiadau llifogydd ac asesu difrod; a

  • chefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i asesu difrod yn dilyn tirlithriad, o fewn 24 awr i'r digwyddiad.

Mae'r drôn hefyd yn gallu creu modelau 2D a 3D o ddelweddau a gasglwyd, sy'n caniatáu i'r tîm wneud mesuriadau cywir o bellteroedd, arwynebau a chyfaint.

Mae'r tîm wedi llunio fideo i arddangos peth o'r gwaith y maent wedi'i wneud. 

Fideo’r Gwasanaeth Drôn  

Os ydych chi'n meddwl y gallai eich tîm neu brosiect elwa o rywfaint o gefnogaeth, neu os oes gennych syniad yr hoffech ei drafod gyda'r tîm, mae croeso i chi gysylltu â: