Allwch chi helpu ein tîm gwasanaethau preswyl?

Mae rheolwyr gwasanaethau preswyl yn galw ar staff i helpu i hyrwyddo a rhannu swyddi gwag brys yn y maes gofal cymdeithasol.

Mae yna swyddi parhaol a chyflenwi, gan gynnwys:

  • Cynorthwy-ydd Gofal - Gradd 3 £9.81
  • Cogydd - Gradd 4 £10.01 i £10.41
  • Cynorthwy-ydd Cegin - Gradd 1 £9.43

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan y rhai sydd â phrofiad blaenorol o weithio mewn cartrefi gofal preswyl neu o fewn y sector iechyd neu ofal.

Yn anad dim, rydym am glywed gan bobl sy'n angerddol am helpu a gweithio yn y gymuned. Nod ac amcan y Cyngor yw gwella profiad bywyd a lles cyffredinol ein preswylwyr drwy ddarparu gwasanaeth o safon mewn amgylchedd diogel a chartrefol.

Dywedodd Marijke Jenkins, Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau Preswyl: "Ers dechrau'r argyfwng coronafeirws, mae llawer o waith wedi'i wneud i ddathlu gwaith amhrisiadwy ein gweithwyr gofal cymdeithasol. Maen nhw wedi chwarae, ac yn parhau i chwarae, rôl allweddol o ran diogelu rhai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymuned.

"Mae gwir angen mwy o bobl i ymuno â'n timau, boed hynny'n hyblyg neu'n llawn amser. Rydym yn gofyn i staff rannu'r wybodaeth gyda phobl a allai helpu. Yn ddelfrydol, hoffem recriwtio'r rhai sydd â phrofiad gofal blaenorol neu brofiad o weithio gyda Dementia. 

"Mae gennym hefyd swyddi ar gael ar gyfer y rhai sy’n newydd i’r maes, lle byddwn yn cynnig hyfforddiant."

Bydd staff yn cael cynnig y cyflog sylfaenol ynghyd â thaliadau chwyddo:

  • Dydd Llun – Dydd Gwener (00:00 i 06:00; 22:00 i 24:00) - Amser a thraean
  • Dydd Sadwrn (07:00 i 22:00) - Amser a chwarter
  • Dydd Sadwrn (00:00 i 06:00; 22:00 i 24:00) - Amser a hanner
  • Dydd Sul (07:00 i 22:00) - Amser a hanner
  • Dydd Sul (00:00 i 06:00; 22:00 i 24:00) Amser a thri chwarter.

Yn ogystal ag amser yn ôl am yr amser a weithiwyd ar bob un o'r 8 diwrnod gŵyl y banc statudol. Yn ogystal â hyn, bydd gennych hawl i'r cynllun pensiwn llywodraeth leol a llawer o fuddion gwych eraill.

Swyddi Gwag