Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ennill Gwobr GO Genedlaethol y DU 

Mae ein tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi dod yn fuddugol yn y categori Gwerth Cymdeithasol yng Ngwobrau GO Cenedlaethol y DU

21 Medi, 2021

GO Awards Winner 21st Century SchoolsYn agored i sefydliadau'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, mae’r gwobrau GO yn cydnabod rhagoriaeth mewn caffael cyhoeddus.

Lluniwyd rhestr fer o blith enillwyr yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Enillodd Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif, ynghyd â chontractwyr AECOM, ISG Construction, Morgan Sindall Construction a Bouygues UK Construction Wobr GO Cymru am y Ddarpariaeth Gaffael Orau am y tro cyntaf ym mis Mai. 

Roedd y gystadleuaeth yn agos yn y categori Gwerth Cymdeithasol yng ngwobrau Cenedlaethol y DU, gyda Chyngor Perth Kinross ac Awdurdod Addysg Gogledd Iwerddon a Woodvale Construction Company Ltd yn derbyn cymeradwyaeth uchel. 

Enillodd y tîm y wobr am y ffordd gydweithredol y mae buddion cymunedol wedi'u cyflawni yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Mae adeiladau ysgolion yn cael eu hadeiladu mewn modd a fydd yn darparu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach drwy’r Sir gyfan. 

Er enghraifft, mae contractwyr wedi ceisio dyfarnu swyddi is-gontract i gwmnïau lleol ac wedi darparu nifer o gyfleoedd prentisiaeth i bobl sy'n byw ym Mro Morgannwg.  

Mae rhaglen tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif yn rheoli'r gwaith o uwchraddio seilwaith addysgol yn sylweddol ledled y Sir, sy’n cael ei gyflawni mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau, Paula Ham:  "Rydw i mor falch bod ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, a'r tîm sydd y tu ôl iddo wedi cael eu cydnabod ar lefel genedlaethol. 

"Mae’r rhaglen waith uchelgeisiol hon wedi sicrhau canlyniadau gwych hyd yn hyn, sy’n golygu bod plant ledled y Fro yn mwynhau darpariaeth addysgol fodern o'r radd flaenaf, ac mae'r ffordd arloesol y darperir y cyfleusterau hyn yn golygu bod cymunedau cyfagos hefyd wedi elwa. 

"Llongyfarchiadau i Kelly, Matt, Chloe a'r Grŵp Llywio Buddion Cymunedol ar eich cydnabyddiaeth haeddiannol." 

Mwy o wybodaeth am y buddion cymunedol sy'n cael eu darparu gan dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor ar ein gwefan.