08 Hydref, 2021

Annwyl Gydweithwyr,

Mae'r wythnos hon wedi gweld cyhoeddi buddsoddiad mawr arall i wella'r Fro. Daeth hyn ar ffurf y cam diweddaraf o ran gwelliannau i Bier ac esplanâd Penarth. Bydd buddsoddiad o £200,000 yn golygu rheiliau, meinciau, bolardiau, colofnau goleuo, y decin, cwt y lanfa, a thoiledau oll yn cael eu hadnewyddu. Bydd mwy o waith i osod wyneb newydd ar y ffordd hefyd yn digwydd. Er y bydd rhai ffyrdd ynghau dros dro, bydd caffi poblogaidd y Big Fresh Catering Company a busnesau eraill ar yr esplanâd a'r pier yn parhau ar agor yn ôl yr arfer drwyddi draw.

Mae uwchraddio a chynnal mannau cyhoeddus yn un o elfennau ein gwaith sy'n cyffwrdd â bywydau nifer enfawr o drigolion ac sy'n cael effaith wirioneddol ar ansawdd bywyd o ddydd i ddydd.   Nid yw'r rhan a chwaraeir gan ein mannau cyhoeddus erioed wedi bod yn bwysicach, o ystyried digwyddiadau'r 18 mis diwethaf.   Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i wella a chynnal y mannau cymunedol pwysig hyn er budd trigolion lleol.   

Rwy'n falch o weld bod gwaith arall sydd i ddechrau yn ystod yr wythnosau nesaf yn cynnwys uwchraddio ardal chwarae Parc y Belle Vue ym Mhenarth. Mae hwn yn brosiect a ariennir gan Adran 106 ac mae'n rhan o waith uwchraddio ehangach a fydd hefyd yn gweld adeilad Pafiliwn newydd yn disodli'r pafiliwn presennol, adeilad a fydd yn fwy addas i anghenion y gymuned leol. 

Belle Vue Play Area upgradeMae tîm o swyddogion sy'n cydweithio'n agos ar uwchraddio ardaloedd chwarae Adran 106 fel y rhain sy'n cynnwys Charlotte Raine, Christine Smith, Adam Sargent, Jon Greatreax a'n Prif Bensaer Tirlun sydd newydd ei benodi, Jon Green. Hoffwn ddiolch i chi i gyd am eich gwaith ar y prosiect hwn, a'r nifer fawr o rai eraill yr wyf yn gwybod sydd ar y gweill.  Mae'n dda gweld gwaith mor gadarnhaol yn digwydd ar draws adrannau drwy gyfrwng unigolion a thimau yn gweithio mor dda gyda'i gilydd.  Da iawn i chi gyd a diolch yn fawr iawn.  Edrychaf ymlaen at weld y cynlluniau wedi'u cwblhau.  

Tîm arall sy'n cael effaith fawr ar fywydau trigolion ond yn aml mewn ffordd wahanol iawn yw Cyswllt Un Fro. Dyma'r drws ffrynt i lawer o'n gwasanaethau ac er gwaethaf heriau sylweddol dros gyfnod yr haf, mae'r tîm yn gweithio'n eithriadol o galed i gynnig y profiad gorau posibl i'n cwsmeriaid. Rwyf wedi rhannu newyddion am y system newydd sy'n cael ei gweithredu yn y Ganolfan Gyswllt a chan y timau cefn swyddfa i wella'r gwasanaeth i'n cwsmeriaid. Rwy'n edrych ymlaen at rannu newyddion gyda chi hefyd, yn fuan iawn, ynghylch sut fydd hyn hefyd yn gwella'r ffordd y gall ein cwsmeriaid ryngweithio â ni ar ein gwefan.

Yr wythnos hon rwyf am dynnu sylw’n arbennig at Denise Davis, un o'n Cynrychiolwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid. Roeddwn yn falch o ddarllen e-bost gan un o'i goruchwylwyr yr wythnos hon, Rochelle Gibbons, yn canmol cefnogaeth Denise i'w chydweithwyr yn Teleofal a’i pharodrwydd i fynd y tu hwnt i ofynion ei swydd bob amser. Yn ei e-bost, dwedodd Rochelle:

"Mae Denise wedi bod yn gefnogol iawn i Teleofal drwy gydol y pandemig, gan gerdded drosodd ym mhob tywydd rhwng y Ganolfan Ddinesig a C1V i roi seibiant yr oedd mawr ei angen ar y Gweithredwyr Teleofal ar adegau yn ystod Covid – roedd galwadau Teleofal yn galed ac yn emosiynol – hi yn aml oedd yr unig berson fyddent yn ei gweld yn ystod shifft pan oedd pawb arall yn gweithio gartref ac mae hi bob amser mor gyfeillgar, cefnogol a chadarnhaol – rwy'n gwybod eu bod nhw’n gwerthfawrogi ei chefnogaeth yn ymarferol ac ar adegau ei chefnogaeth emosiynol hefyd.

"Ddoe aeth ei natur gefnogol ymhellach na hynny, oherwydd argyfwng gyda theulu aelod o'r tîm a barodd i’r aelod adael y gwaith ar frys, neidiodd ar i’r ddesg Teleofal a chymryd yr awenau oddi arnynt heb betruso. Ychydig yn ddiweddarach, dechreuodd y system gyfrifiadurol beri trafferth ac fe rewodd, ond yn ddigynnwrf dargyfeiriodd Denise y llinell i Gaerfyrddin, ceisiodd drwsio’r broblem gyda’r system a cheisio cymorth i sicrhau bod cwsmeriaid yn ddiogel. 

"Diolch, Denise rydych chi'n ddiemwnt." 

Hoffwn adleisio diolch Rochelle, y math hwn o gefnogaeth i gydweithwyr sy'n fy ngwneud yn falch o'r sefydliad rydym yn gweithio iddo. Drwy gydol y pandemig a thu hwnt, pan fydd cydweithwyr yn ei chael hi'n anodd neu angen ychydig o gymorth ychwanegol, mae eraill wedi camu ymlaen. Enghreifftiau fel hyn sy'n ein hatgoffa ni oll i fod yn garedig, yn ystyriol ac mor ddefnyddiol ag y gallwn fod wrth i ni weithio gyda'n gilydd i ddarparu gwasanaethau hanfodol i drigolion Bro Morgannwg.  

Ar nodyn cysylltiedig, mae Suzanne Clifton, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Chynghrair y Fro hefyd wedi ysgrifennu e-bost yr wythnos hon yn canmol cydweithwyr yn y Gwasanaethau i Oedolion a Chyswllt Un Fro am gefnogi gŵr oedrannus. Cododd sefyllfa a adawodd y person hwn yn teimlo'n agored i niwed ond diolch byth, cydweithiodd y cydweithwyr yma i ddatrys y sefyllfa a sicrhau diogelwch y defnyddiwr gwasanaeth penodol hwn. Canmolodd Suzanne eu gweithredu a'u dyfeisgarwch cyflym, gan nodi:  

"Diolch am fod yn benderfynol o ddatrys a deall y darnau o'r jig-so, sy'n enghraifft wych o ba mor ddifrifol rydych chi'n cymryd eich gwaith a sut rydych chi'n gwneud bywydau'n well ac yn ddiogel. Hefyd, roedd eich amseroedd ymateb yn wych i allu mynd i'r afael â'r materion mewn amser go iawn er mwyn atal i sefyllfa a phryder i'r unigolyn hwn waethygu." 

Adborth fel hyn sy'n dangos sut mae ein staff wedi dangos yn glir eu hymrwymiad i'w gwaith ac i helpu trigolion ym Mro Morgannwg sydd mewn angen. Enghraifft wych o dimau'n cydweithio ar anghenion ein preswylwyr. Da iawn a diolch yn fawr, Tîm y Fro.

Cyn imi ddirwyn y neges hon i ben, mae'n werth cyfeirio'n fyr at y cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn gynharach heddiw.  Mae Cymru'n parhau i fod ar Lefel Rhybudd sero sy'n golygu ychydig iawn o newid i'r sefyllfa bresennol, ar wahân i'r hyn a gyhoeddwyd eisoes yn gynharach yr wythnos hon ynghylch pas Covid ar gyfer gwahanol leoliadau clwb nos neu ddigwyddiadau.   Er bod nifer yr achosion o coronafeirws yn parhau'n uchel, yn enwedig yn y grŵp oedran dan 25 oed.  Er bod gostyngiad wedi bod yn nifer y bobl sydd â covid mewn gofal critigol mewn ysbytai, mae'r GIG dan bwysau sylweddol ac roedd llawer o'r hyn a gyhoeddodd y Prif Weinidog er mwyn ceisio diogelu'r GIG pe bai achosion o Covid yn cynyddu ymhellach.

Yn ogystal, ac yn bwysig iawn, parhaodd y Prif Weinidog i bwysleisio bod yr agweddau pwysig i gadw ein hunain a'n teuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr yn ddiogel, yn aros yr un ag y buont drwy gydol y pandemig – golchi dwylo, gwisgo gorchuddion wyneb mewn rhai lleoliadau, lleoliadau wedi'u hawyru, gweithio gartref os yn bosibl a chyfarfod yn yr awyr agored lle bo hynny'n bosibl. 

Mynychais gyfarfod â Llywodraeth Cymru yn gynharach y bore yma ac roedd yr holl agweddau hyn yn parhau i gael eu trafod fel rhai o bwys sylweddol. 

Edrychaf ymlaen at rannu mwy o enghreifftiau o'n hymdrechion ar y cyd yr wythnos nesaf a gobeithio y bydd pob un ohonoch yn cael penwythnos wrth eich bodd. 

Cymerwch ofal a chadwch yn ddiogel.

Diolch yn fawr,

Rob.