Gwobrau i’r GRhR

Mae cydweithwyr y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) wedi cael eu cydnabod mewn dau ddigwyddiad gwobrau ar wahân yn ddiweddar.

28 Hydref, 2021

Mae gwaith partneriaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, sy'n cynnwys Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Caerdydd a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei wobrwyo gyda thair gwobr PawPrints am eu gwaith gydag anifeiliaid. Ar gyfer 2021, rhoddodd y beirniaid Wobr Cŵn Strae Aur, Gwobr Trwyddedu Arian a Gwobr Cynelu Cŵn Efydd i’r Gwasanaeth. 

Rhedir PawPrints gan yr RSPCA i gydnabod awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, cynllunwyr wrth gefn a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus sy'n gwneud mwy na’r gofynion sylfaenol neu statudol i sicrhau’r safonau lles uchaf ar gyfer anifeiliaid yn y gwasanaethau y maent yn eu darparu.

Yn ogystal â chydnabod gwaith y gwasanaeth gyda'r gwobrau hyn, cymerodd yr RSPCA y cam ychwanegol o ysgrifennu at Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Neil Moore, i rannu'r newyddion ac i ddweud bod y gwasanaeth wedi creu argraff fawr arnynt. Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd:

"Rwyf wrth fy modd ac yn hynod falch o lwyddiant ein cydweithwyr yn y GRhR.  Mae'r tîm wedi ymrwymo'n llwyr ac yn gweithio'n ddiflino er lles anifeiliaid."

Ar ben y cyflawniad hwn, mae Jemma Cox, un o Swyddogion Ymgysylltu Busnes y GRhR, hefyd wedi cael ei chydnabod gan y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig (SSMS).

Gwnaeth Jemma sefyll dau arholiad proffesiynol yn 2019, ond, o ganlyniad i'r aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig, dim ond yn ddiweddar y cafodd wybod ei bod am dderbyn dwy wobr i gydnabod y ffaith iddi ennill y sgôr uchaf yn genedlaethol ar gyfer y Diploma mewn Materion Defnyddwyr a Safonau Masnach (DMDDM) a hefyd y sgôr uchaf ar gyfer y papur arholiad Eiddo Deallusol.

Jemma Cox with her awards

Derbyniodd Jemma y gwobrau canlynol:

• Gwobr Fframwaith Cymwysterau Safonau Masnach Regina Kibel ar gyfer 2019
• Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn y Grŵp Gwrth-ffugio (GG)

Cyflwynwyd y rhain iddi yn Symposiwm SSMS yn Birmingham ar 29 Medi.

Roedd Helen Picton, Rheolwr Gweithredol Menter a Gwasanaethau Arbenigol am longyfarch Jemma ar ei pherfformiad rhagorol, gan ddweud:

"Mae Jemma’n llwyr haeddu’r gwobrau mae wedi’u derbyn gan y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig.  Mae cael nid dim ond un ond dwy wobr genedlaethol i gydnabod perfformiad rhagorol yn aruthrol; mae’r ffaith bod Jemma wedi cyflawni'r llwyddiant hwn tra'n cydbwyso anghenion rôl heriol a theulu ifanc ar yr un pryd yn anhygoel. Rwy’n hynod falch o Jemma a’r cyfan mae wedi’i gyflawni.”