Yn galw rhieni a gofalwr sy’n defnyddio gofal plant yng Nghymru! 

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal asesiad cynhwysfawr o ofal plant ym Mro Morgannwg, fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru, a byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

7 Hydref, 2021

CSA image CYMae gan bob Awdurdod Lleol yng Ngymru ofyniad statudol i gwblhau asesiad o ofal plant bob 5 mlynedd.

Rydym ar hyn o bryd yn cynnal amrywiaeth o ymgynghoriadau gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys rhieni a gofalwyr, darparwyr gofal plant, plant a phobl ifanc a chyflogwyr.   

Bydd unrhyw bylchau a nodwyd wedyn yn llywio cynllun gweithredu i gefnogi gofal plant yn y dyfodol. 

Os ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr sy'n defnyddio gofal plant ym Mro Morgannwg llenwch yr arolwg byr yma a chewch ddweud eich dweud heddiw.

Rydyn ni eisiau deall mwy am y gofal plant sydd ei angen arnoch, boed ar gyfer plant ifanc neu blant hŷn sydd angen gofal cyn neu ar ôl ysgol neu yn y gwyliau.

Rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich profiad o ddod o hyd i ofal plant addas gan y bydd hyn yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Debbie Maule, Cydlynydd Partneriaeth Plant: 

"Rydym yn gwerthfawrogi bod y 18 mis diwethaf wedi bod yn her go iawn i rieni sy'n jyglo gweithio o'r cartref a gofynion gofal plant, pan oedd yn ofynnol i lawer o ddarparwyr gofal plant gau neu fod ar gael yn gyfyngedig i blant gweithwyr allweddol brys.

"Wrth i'r sector gofal plant ddechrau gwella a symud ymlaen, mae hyd yn oed yn bwysicach i ni gael barn rhieni, darpar rieni a gofalwyr ynghylch eu gofynion gofal plant. Byddwch mor agored a gonest â phosibl fel bod gennym drosolwg o'r holl sefyllfa."

Mae’r arolwg ar gael tan hanner nos ar 31 Hydref 2021.