Staffnet+ >
Message from the Managing Director about COP26

02 Tachwedd, 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Rwy'n ysgrifennu atoch heddiw i siarad am COP26. Soniais am y Gynhadledd bwysig hon ar y Newid yn yr Hinsawdd, sy'n cael ei chynnal yn Glasgow dros y pythefnos nesaf, yn fy neges i chi i gyd ddiwedd yr wythnos diwethaf.
COP26 yw’r 26ain Cynhadledd y Pleidiau, a gynhelir gan y Cenhedloedd Unedig i drafod gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Ystyrir bod y gynhadledd benodol hon yn ganolog yn y ras i gadw'r cynnydd yn y tymheredd cyfartalog byd-eang i lai na 1.5C. A dyma pam mae'n rhaid i ni i gyd gymryd sylw a gweithredu.
Ddoe, es i ar daith o amgylch yr ysgol gynradd carbon sero-net newydd yn Nhrwyn y Rhŵs (Ysgol Gynradd Llancarfan), sef y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Daeth y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, ar y daith hefyd gan ddefnyddio’r cyfle i gyhoeddi y bydd angen i bob adeilad ysgol a choleg newydd, gan gynnwys prosiectau adnewyddu ac ehangu mawr, fwrw targedau Carbon Sero-net o 1 Ionawr y flwyddyn nesaf.
Bydd angen i'r adeiladau hynny, fel Ysgol Gynradd Llancarfan, weithredu ar sail Carbon Sero-net, sy'n golygu cynhyrchu dim allyriadau carbon neu rai carbon-negatif yn rhan o'u hynni gweithredol.Gallwch ddarllen mwy am y prosiect hwn ar Staffnet+.
Dim ond un enghraifft yw hon o sut rydym ni, fel sefydliad, yn gweithio tuag at gyflawni allyriadau carbon sero-net erbyn 2030, drwy ein Prosiect Sero. Mae ein tîm Trafnidiaeth hefyd wedi cael clod am ei waith arloesol yn y maes hwn. Yr wythnos hon, tynnwyd sylw at ei waith i hyrwyddo manteision iechyd teithio llesol yn Cylchlythyr Cenedlaethau'r Dyfodol Hydref 2021.
Byddaf yn rhoi mwy o fanylion am brosiectau, a'r timau y tu ôl iddynt, yn fy neges wythnosol arferol i chi ddydd Gwener.
Yn y cyfamser, byddwn yn trydar bob dydd i gyfrannu at y sgwrs am y newid yn yr hinsawdd tra bydd COP26 ar y gweill. Mae helpu i annog trafodaeth gyhoeddus am sut i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn un o sawl ffordd y gall y Cyngor ddangos arweiniad ar y mater felly rhowch o’ch amser i edrych ar ein negeseuon a chymryd rhan.
Mae ffyrdd eraill y gallwch gymryd rhan yn COP26, fel gwylio ffrydiau byw o'r gynhadledd drwy eu Sianel YouTube. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal COPCymru – cyfres o ddigwyddiadau rhithwir sy'n annog pobl yng Nghymru i gymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch y newid yn yr hinsawdd.
Mae hefyd newidiadau bach y gallwn i gyd eu gwneud yn ein bywydau bob dydd er mwyn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Er enghraifft:
- Siopa'n lleol am gynnyrch lleol – mae hyn yn helpu i leihau milltiroedd bwyd ac yn helpu'r economi leol.
- Ailgylchu – yng Nghymru rydym ar y blaen o ran y swm yr ydym yn ei ailgylchu, ond gallwn i gyd wneud mwy i leihau ein gwastraff. Meddyliwch am unrhyw ddeunydd pacio diangen y gallech fod yn ei gasglu wrth wneud eich siopa wythnosol – a ellir lleihau hyn?
- Stopio gwastraffu dŵr – diffoddwch y tap wrth frwsio'ch dannedd, cyfyngwch ar swm yr amser yr ydych chi'n ei dreulio yn y gawod neu ceisiwch leihau swm y dillad yr ydych chi'n eu golchi bob wythnos.
- Diffodd dyfeisiau – diffoddwch eich gliniadur neu'ch teledu yn lle eu rhoi yn y modd segur fel na fyddant yn defnyddio pŵer.
- Teithio’n llai mewn car - os gallwch, ewch ar y trên, ar gefn beic neu mewn car neu gerdded i leihau allyriadau carbon.
Mae'n hanfodol bwysig ein bod i gyd yn chwarae ein rhan wrth gyfrannu at y gwaith o leihau allyriadau Carbon ac yn gwneud ein rhan dros yr amgylchedd.
Os oes gennych fwy o awgrymiadau, mae croeso i chi rannu'r rhain mewn negeseuon yn y dyfodol neu drwy ein ffeithluniau Staffnet a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Diolch yn fawr,
Rob.