Staffnet+ >
Y Fro'n arwain y ffordd gyda chyflwyno gofyniad i bob ysgol newydd yng Nghymru fod yn garbon sero-net
Y Fro’n arwain y ffordd gyda chyflwyno gofyniad i bob ysgol newydd yng Nghymru fod yn garbon sero-net
Roedd Rob Thomas, Paula Ham a Kelly Williams yng nghwmni Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a'r Gymraeg ddoe wrth iddo gyhoeddi y bydd angen i bob adeilad ysgol a choleg newydd yng Nghymru, gan gynnwys prosiectau adnewyddu ac ehangu mawr, fwrw targedau carbon sero-net o 01 Ionawr 2022.
02 Tachwedd, 2021
Gwnaed y cyhoeddiad yn ysgol gynradd newydd Llancarfan, yn y Rhŵs, ac nid oedd hyn yn gyd-ddigwyddiad gan mai’r ysgol hon, sy'n cael ei datblygu gan ein tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif, fydd yr ysgol garbon niwtral gyntaf yng Nghymru pan fydd yn agor y flwyddyn nesaf.
Dechreuodd y gwaith adeiladu fis Tachwedd diwethaf a disgwylir iddo gael ei gwblhau ar ddechrau 2022, ac erbyn hynny bydd dwy ysgol garbon sero-net arall yn cael eu hadeiladu ym Mro Morgannwg.
Er mwyn helpu i leihau ei hallyriadau, mae gan yr ysgol ei chyfleusterau cynhyrchu pŵer a storio batris ei hun ar y safle.
Mae tîm y prosiect wedi datblygu adnoddau addysgu a fydd yn rhoi cipolwg o’r agenda carbon sero-net, sy’n cynnig cyswllt pendant rhwng y dechnoleg yn yr ysgol newydd a sut mae hyn yn effeithio ar yr amgylchedd o'i chwmpas.
Drwy ein Prosiect Sero rydym yn cyfrannu at agenda genedlaethol i leihau allyriadau carbon i sero-net erbyn 2050.
Wedi ymweld â’r ysgol, dywedodd Rob Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr:
"Rwyf mor falch bod prosiect Cyngor Bro Morgannwg yn cael ei gydnabod a'i ailadrodd ar raddfa genedlaethol. Rydym wedi gosod safon uchel gyda’r ysgol hon.
"Da iawn i'r holl swyddogion sy'n rhan o'n rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, sy'n wirioneddol arloesol mewn sawl ffordd."t century schools programme, which truly is innovative in many ways.”
Ychwanegodd Paula Ham, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau:
"Rydym yn hynod falch o fod yn agor ysgol sero-net gyntaf Cymru yma ym Mro Morgannwg, ac o’r ffaith bod dau arall wedi’u cynllunio.
"Fe'i dyluniwyd nid yn unig yn adeilad sy'n lleihau ein hallbwn carbon ond yn un a fydd yn creu amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf i ddisgyblion ddysgu am eu heffaith ar yr amgylchedd.
"Rydym wrth ein bodd bod ISG Construction hefyd wedi llwyddo i gadw eu hôl troed carbon i'r swm lleiaf posibl yn ystod y gwaith adeiladu, gan ddefnyddio cyflenwyr lleol a bod yn ymwybodol o'r deunyddiau yr oeddent yn eu defnyddio. Mae hwn yn fodel y byddwn yn ei ddatblygu ar gyfer pob ysgol ym Mro Morgannwg yn y dyfodol".