28 Mai 2021 

Annwyl Gydweithwyr,

Gobeithio eich bod yn iach ac yn edrych ymlaen at benwythnos hir neu seibiant hirach dros yr hanner tymor.

Hoffwn ddechrau'r neges hon drwy sôn am angladd Martin ddoe. Roedd yn dwymgalon gweld cynifer o bobl y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig yn talu eu teyrngedau i Martin a'i deulu wrth i'w gynhebrwng angladd wneud ei ffordd ar hyd Heol Holltwn. I'r rhai nad oeddent yn gallu bod yn bresennol, recordiodd cydweithwyr glip fideo byr o'r adeg arhosodd arch Martin o flaen y swyddfeydd Dinesig. Gellir gweld hyn ar dudalen Teyrnged Martin ar Staffnet+.  

Hoffwn hefyd roi sylw yr wythnos hon i gydweithwyr o'r Tîm Gwasanaethau Democrataidd a'n hadran TGCh sydd wedi gweithio gyda'i gilydd i'n galluogi i symud tuag at gynnal cyfarfodydd y Cyngor yn rhithwir.  Bydd y rhan fwyaf ohonoch yn ymwybodol, ers Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Mai 2021, bod y rhan fwyaf o gyfarfodydd y Cyngor sydd wedi'u cynnal yn rhithiwr hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw. Gall unrhyw un gyrchu’r cyfarfodydd ar wefan y Cyngor, drwy YouTube. Nid yw'r symudiad llwyddiannus o gynnal cyfarfodydd yn bersonol i gynnal cyfarfodydd rhithwir a chynnal y rheini nawr fel digwyddiadau 'byw' wedi bod heb heriau ond fe'u galluogwyd gan waith caled, ymroddiad a phenderfyniad staff o Wasanaethau Democrataidd a'r adran TGCh sydd wedi gweithio mewn partneriaeth i wneud hyn i gyd yn bosibl. Diolch i'r ddau dîm am alluogi'r Cyngor i bontio mor llyfn â phosibl a chefnogi Aelodau Etholedig, Aelodau Cyfetholedig, staff a'r cyhoedd i gael mynediad at gyfarfodydd y Cyngor.  Da iawn i chi gyd – diolch yn fawr iawn.  

'Atlantic Pier' lit at night for filmingEfallai bod rhai ohonoch wedi gweld yn y wasg neu ar y cyfryngau cymdeithasol fod Pafiliwn Pier Penarth wedi cael ei ddefnyddio unwaith eto fel lleoliad ffilmio ar gyfer cynhyrchiad C4 yr wythnos hon. Mae 4 stories yn gyfres chwe rhan sy'n cynnwys straeon o wahanol gymunedau. Cafodd arwydd yn ailenwi'r adeilad 'Atlantic Pier' ei godi ddydd Mercher er mwyn ffilmio nos Fercher a nos Iau. "Mae hyrwyddo'r pafiliwn yn rhan bwysig o’n cynllun at y dyfodol ac mae hyn yn cynnig cyfle i arddangos yr adeilad eiconig i gynulleidfa ehangach. Mae hefyd yn ffordd o gynhyrchu incwm y gellir ei ail-fuddsoddi yn y cyfleuster lleol gwerthfawr hwn. Diolch i'r holl swyddogion sydd wedi bod yn ymwneud â chefnogi'r cynhyrchiad hwn a hyrwyddo Bro Morgannwg fel cyrchfan ardderchog ar gyfer ffilmio. 

Os ewch i Benarth dros wythnos hanner tymor - gallwch alw heibio i'r caffi yn y pafiliwn.  Bydd yr incwm a gynhyrchir yn helpu i gefnogi'r gwaith o gynnal y Pafiliwn ei hun yn ogystal â'n galluogi i fuddsoddi mwy yn ein gwasanaeth prydau ysgol.  Mae'n fenter ragorol ac rwyf wrth fy modd bod Big fresh (ein cwmni masnachu arlwyo) yn mynd o nerth i nerth. 

Mae'r ymgynghoriad ffurfiol ar ein cynllun drafft her newid hinsawdd, sy'n rhan o Brosiect Sero, bellach wedi cau, ond gan fod hwn yn fater mor bwysig i ni, rydym yn cadw'r sgwrs honno i fynd wrth i ni ddechrau ar gam nesaf ein gwaith. Yr wythnos hon gwahoddodd Matt Gilbert a Polly Davies, Pennaeth a Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Ynys y Barri, Tom Bowring a fi, ynghyd â thîm o'n cydweithwyr, i fynychu eu diwrnod HMS ddydd Iau, i sôn am eu syniadau o ddefnyddio Prosiect Sero fel gweithgaredd wythnos gyfoethogi a ddatblygwyd o amgylch y cwricwlwm newydd i Gymru. Yn ystod yr wythnos honno bydd disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau o ddefnyddio bwyd ar gyfer ynni, cludiant, bioamrywiaeth, gwastraff ac ailgylchu – gan archwilio'r newidiadau y gellid eu gwneud yn unigol, yn yr ysgol ac yn ardal leol Ynys y Barri. Bydd canlyniad y gwaith yn ddefnyddiol iawn a bydd yn waith y gallwn ei rannu mewn ysgolion eraill.  Rwy'n ddiolchgar iawn am y brwdfrydedd a'r ymrwymiad a ddangoswyd gan Matt a Polly yn ogystal â'r holl staff a phlant yn Ysgol Gynradd Ynys y Barri. Diolch yn fawr iawn.

Cyfarfu Helen Moses a'i chydweithwyr hefyd ag aelodau Grŵp Gweithredu Ieuenctid Penarth a Chyngor Ieuenctid Llanilltud yr wythnos hon i drafod rhai o'u syniadau ynghylch Prosiect Sero. Roedd y grŵp yn frwdfrydig iawn am y pwnc ac wedi gofyn a allant barhau â'r drafodaeth yn eu cyfarfod nesaf a rhoi mwy o sylwadau. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gwasanaeth Ieuenctid am hwyluso hyn ac i Helen a'i thîm am arwain ar ddarn mor bwysig o waith i ni fel awdurdod.  Byddwn yn parhau â'r sgwrs ar Brosiect Sero gydag ychydig o bobl eraill gan gynnwys ein chynghorau tref a chymuned a grŵp cymunedol yng Ngwenfô, fel enghraifft. Da iawn i bawb sydd wedi bod yn cymryd rhan hyd yn hyn.

walk ins at Bayside MVC

Mae ein cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd yn gwahodd nawr unrhyw un dros 18 oed nad ydynt wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn COVID eto i fynd i sesiwn galw heibio y penwythnos gŵyl banc hwn yng Nghanolfan Brechu Torfol y Bae.

Yn olaf, hoffwn sôn am fenter y byddwn yn ei chefnogi dros yr wythnos nesaf. Bydd Wythnos y Beic yn cael ei chynnal rhwng 30 Mai a 5 Mehefin. Rwy'n gobeithio dod o hyd i amser i fynd allan ar fy meic dros yr wythnos nesaf ac rwy'n gobeithio y bydd eraill yn dod o hyd i amser i wneud yr un peth. Mae ein partneriaid Nextbike hefyd yn cynnig taith awr am ddim i staff y Cyngor ar un o'u beiciau trydan, a osodwyd ledled Penarth. I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos y Beic a sut y gallwch gymryd rhan, gweler y dudalen bwrpasol ar Staffnet+. 

Mae'n bwysig, er bod nifer ohonom yn parhau i weithio o bell, ein bod yn gwneud ein hiechyd a'n lles yn flaenoriaeth. Cofiwch fod gennym fenter Eich Lles / Eich Iechyd sy'n dal i gynnig mynediad am ddim i nifer o weithgareddau corfforol, sesiynau maetheg a chyngor ac arweiniad arall. Ewch i'r Hwb Lles ar Staffnet+ i gymryd rhan. Mae rhai o'r gweithgareddau wedi'u recordio fel y gall staff gymryd rhan pan fydd yn gyfleus iddynt ac mae eraill wedi cael eu symud gyda’r hwyr i ganiatáu i fwy o bobl ymuno. Mae Staffnet+ yn hygyrch i'r holl staff, waeth pa ddyfais y maent yn ei defnyddio. Nid oes angen i chi fod ar ddyfais neu rwydwaith y Cyngor i'w gyrchu. Ewch i www.valeofglamorgan.gov.uk/staffnetplus o unrhyw borwr i weld ein newyddion diweddaraf, e-slipiau cyflog a nifer o adnoddau eraill. 

Gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos hir neu hanner tymor da. Cymerwch ofal.  

Diolch yn fawr,

Rob.