Teyrnged i Martin Garrett  

Rydym yn drist iawn i orfod dweud i ni golli ein ffrind a'n cydweithiwr, Martin, fore Iau diwethaf ar ôl brwydr hir gyda chanser.

Dydd Mercher 12 Mai 2021

Martin at ChristmasDechreuodd Martin weithio i'r Cyngor ym mis Awst 1999 yn Haydock House fel swyddog diogelwch, yna aeth i weithio yn Provincial House cyn iddo gael ei brif swydd yn y Swyddfeydd Dinesig. 

Byddai pawb a oedd yn gweithio gydag ef yn dweud nad oedd dim byd fyth yn ormod o drafferth a byddai bob amser mor hael ei gymwynas i unrhyw un a fyddai’n gofyn iddo, yn aml yn mynd y tu hwnt i'w ddisgrifiad swydd, oherwydd ei fod yn ymfalchïo yn y gwaith a wnâi.  

Yn sicr, gwnaeth Martin fywyd yn llawer haws i'r staff yr oedd yn gweithio gyda nhw ac roedd ganddo bob amser agwedd siriol a hapus ac yn barod i rannu jôc, gyda gwên ar ei wyneb bob tro. 

Roedd yn wych am reoli unrhyw gwsmeriaid anodd a ddeuai i mewn i'r gwahanol adeiladau y bu'n gweithio ynddynt, gyda'i empathi naturiol a'i allu i siarad â phobl a lliniaru unrhyw densiwn neu ymddygiad ymosodol.  Roedd yn ei hanfod, yn berson pobl, drwodd a thro.

Martin hefyd oedd bywyd ac enaid pob parti ac roedd wrth ei fodd allan mewn torf o bobl lle gallai siarad a hel clecs drwy'r nos. 

Roedd yn un o'r bobl fwyaf caredig a hael y gallech fyth ei gyfarfod ac roedd wrth ei fodd yn gallu chwerthin a chwarae jôcs ymarferol hefyd gyda'i gymeriad cynnes a byrlymus.  

Martin Children in NeedRoedd Martin wastad yn barod i gael hwyl a gwisgo fel cymeriadau amrywiol, megis Pudsey a chorrach Nadolig, ar gyfer rhai o'r diwrnodau codi arian elusennol a gefnogwyd gan y Cyngor. Mewn tri gair, roedd yn Grêt O Foi.

Ei hoff ddywediad oedd "It’s all good love" hyd yn oed pan nad oedd. Pan waethygodd ei salwch ac y gwyddai y byddai'n cael triniaeth fwy dwys, prynodd gath fechan iddo'i hun yn gwmni a'i henwi’n "Chemo" - a oedd, yn ei farn ef, yn hysterig!  Cwbl nodweddiadol o Martin.  

Athroniaeth Martin mewn bywyd oedd nad oedd dim byd fyth mor ddrwg fel na allech chwerthin yn ei gylch ac roedd gallu ganddo i droi pob peth negyddol yn rywbeth cadarnhaol, gan chwilio am y rhimyn arian yna bob amser.  

"Martin, byddwn yn gweld dy golli'n fawr iawn ac mae'r byd yn lle tlotach nawr hebot ti.  Byddi bob amser yn annwyl ym meddyliau a chalonnau'r cydweithwyr y buost yn gweithio gyda nhw yn y Fro.  Gorffwys mewn Hedd ein ffrind." Rachael Slee, Rheolwr Cyfleusterau

 Mae teulu Martin wedi creu tudalen goffâd lle gall ffrindiau a chydweithwyr dalu eu teyrngedau a gadael negeseuon. 

Cynhelir angladd Martin am 11am ar 26 Mai. Bydd y cynhebrwng yn pasio'r Swyddfeydd Dinesig tua 10:20am. Os hoffai staff sefyll y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig i dalu parch ar yr amser hwn, gofynnwn yn garedig i chi gadw pellter cymdeithasol. 

Byddwn hefyd yn gosod mainc goffa yn y Cwrt yn y Swyddfeydd Dinesig lle gall staff eistedd, myfyrio a chofio Martin.

Yn olaf, mae cydweithwyr Martin wedi sefydlu tudalen Just Giving gyda'r nod o gefnogi ei deulu trwy'r amser anodd hwn. Os hoffai unrhyw un roi rhodd, ewch i'r dudalen.