07 Mai 2021

Annwyl Gydweithwyr,

Wrth i mi ysgrifennu atoch heddiw, mae’r pleidleisiau wrthi’n cael eu cyfrif i bennu canlyniadau etholiadau’r Senedd a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu a gynhaliwyd ddoe, 6 Mai. Yr wythnos diwethaf, rhoddais i fy nymuniadau gorau i bawb sydd ynghlwm wrth gynnal yr etholiad, dan amgylchiadau heriol iawn.. Mi fydd hi’n benwythnos hir i’r timau o ystyried nad yw papurau pleidleisio etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cael eu cyfrif tan ddydd Sul. Diolch byth, mae ein cwmni arlwyo, Big Fresh, wrth law i weini caffein a byrbrydau. Diolch eto i bawb sy’n rhan o’r gwaith caled o sicrhau bod yr etholiad hwn yn cael ei gynnal yn ddiogel. Mae'r penwythnos hwn yn benllanw misoedd o gynllunio. Fel y gwyddom mae pobl ifanc 16 a 17 oed wedi cael pleidleisio yn etholiadau'r Senedd am y tro cyntaf. Fodd bynnag, i bleidleisio, rhaid bod pobl wedi cofrestru i wneud hynny a hoffwn longyfarch yr holl dimau sydd wedi bod yn ymwneud â sicrhau bod cofrestru pobl ifanc i bleidleisio ym Mro Morgannwg yr uchaf yng Nghymru. Er enghraifft, gwnaed gwaith ymgysylltu cadarnhaol gan gydweithwyr yn y Gwasanaeth Ieuenctid i godi ymwybyddiaeth ac rwy'n ddiolchgar i'r tîm am eu hymdrechion i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.

Mae rhai cyfyngiadau wedi cael eu llacio ymhellach yr wythnos hon hefyd, sy'n golygu bod ein Canolfannau Hamdden, sy’n cael eu rheoli gan Legacy Leisure, wedi ailagor i'r cyhoedd am y tro cyntaf ers y llynedd. Rwy’n  yn ymwybodol trwy drafodaethau ac adborth parhaus bod y cyfan yn mynd rhagddo’n dda ac rwy'n siŵr y bydd preswylwyr yn hapus i ddychwelyd i’r gampfa a gwersi nofio! 

Un o'r ffactorau allweddol sy'n caniatáu i’r cyfyngiadau gael eu llacio yw cyflwyno'r brechlyn yn raddol yn llwyddiannus. Mae dros 400,000 o ddosau bellach wedi'u rhoi ledled Caerdydd a'r Fro. Bydd llawer ohonoch erbyn hyn wedi cael o leiaf un dos. Hoffwn atgoffa'r holl staff y dylech fod yn gallu gweithio'n hyblyg o amgylch eich apwyntiad brechu yn ystod oriau gwaith os mai dyna pryd y mae eich apwyntiad. Siaradwch â’ch rheolwr os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â hyn. Byddwn yn annog pawb i gael brechiad os ydych yn dymuno. 

Whitmore High School_Vale of Glamorgan CC_images by Nigel Forster Photography_173Hefyd yn y newyddion yr wythnos hon, mae staff a disgyblion Ysgol Uwchradd Whitmore bellach wedi symud i'w hadeilad ysgol newydd sbon. Roedd ein tîm cyfathrebu a'n Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, y Cynghorydd Lis Burnett, yn ddigon ffodus i gael taith o amgylch yr ysgol ddydd Mercher. Mae'r cyfleusterau a'r dyluniad y mae tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi’u datblygu ar y cyd â'r ysgol a'r datblygwyr Morgan Sindall, o'r ansawdd a'r safon uchaf. Rydym i gyd yn gobeithio y byddwch yn mwynhau eich ysgol newydd. Cadwch lygad am sylw yn y cyfryngau i’r ysgol yn agor hefyd. 

schools ict and data team.png - Copy

Hoffwn ddiolch unwaith eto i'r Tîm TGCh a Data Ysgolion, a dderbyniodd a dosbarthodd dros 2,500 o ddyfeisiau Chromebook i ysgolion unigol yr wythnos diwethaf o fewn tridiau! Mae'r set ddiweddaraf hon o offer newydd yn ychwanegu at gyfanswm o rhwng 6,000 a 7,000 o ddyfeisiau a roddwyd i ysgolion ers mis Hydref. Rhaid imi ddiolch i Chris, Ross, Pete, Sean, Emily, Alex a Becky am dorchi eu llewys gyda’r gwaith hwn. Rwy'n siŵr bod ein hysgolion a'n disgyblion yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth.  our schools and pupils are very grateful for your support. 

Rhywun arall sydd wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar yn ei hamser hamdden yw Lynne Clarke sy'n gweithio yn nhîm Cyswllt Un Fro. Mae Lynne wedi ymgymryd â phrosiect i droi'r cwrt canolog yn y swyddfeydd Dinesig yn ardd lle y gall staff gael seibiant o'u desgiau, gobeithio, pan fyddant yn dychwelyd i'r swyddfa. Mae Lynne wedi bod yn brysur iawn yn ystod ei hamser cinio, ar ôl gwaith ac ar benwythnosau, yn paentio, golchi gyda chwistrellwr jet a phlannu. Da iawn Lynne, gwaith rhagorol.  Edrychaf ymlaen at ymweld â'r ardd fy hun yn y dyfodol agos iawn.Diolch hefyd i dîm Adam Sargent am ddarparu planhigion i’w plannu allan a chompost i helpu Lynne gyda'r prosiect hwn.  Da iawn pawb.

garden collage

merchant navy memorial cleanDiolch hefyd i Rachael Slee sydd wedi bod yn cefnogi Lynne gyda'r prosiect hwn. Mae Rachael hefyd wedi trefnu'n ddiweddar i gwmni newydd lanhau cofeb y Llynges Fasnachol yn y Swyddfeydd Dinesig. Enillodd cwmni lleol o'r enw Clean Sweep y contract i gynnal y gwaith glanhau gan ddefnyddio system Thermotech sydd, yn ei hanfod, yn glanhau'r garreg â stêm.  Ni ellir defnyddio system golchi â chwistrelliad jet gan fod y strwythur wedi’i wneud o dywodfaen ac y byddai'r dull hwnnw'n erydu'r gofeb.  Rwy'n credu y byddwch yn cytuno ei fod yn edrych yn wych.  Diolch Rachael a'r tîm am drefnu hyn. 

Efallai y bydd rhai ohonoch yn ymwybodol ein bod wedi bod yn ymgynghori ar ein cynllun her newid hinsawdd dros yr wythnosau diwethaf. Bydd yr ymgynghoriad ar Brosiect Sero yn cau ddydd Mercher nesaf, 12 Mai. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn newid yn yr hinsawdd i ddarllen y cynlluniau ac ymateb i'r ymgynghoriad os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Mae hwn yn bwnc pwysig iawn i'r Cyngor a bydd yn llywio'r ffordd rydym yn gweithio yn y blynyddoedd i ddod – byddem yn gwerthfawrogi eich mewnbwn yn fawr.

Mwynhewch y penwythnos.

Diolch yn fawr.

Rob