14 Mai 2021

Annwyl Gydweithwyr,

Gobeithio eich bod yn iawn wrth i’r neges hon eich cyrraedd wrth i wythnos brysur arall ym Mro Morgannwg yn dod i ben.Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi sôn am y gwaith sy’n ymwneud â pharatoi at etholiad a'i gynnal. Tra bod pethau wedi tawelu yn dilyn penwythnos prysur o gyfrif pleidleisiau, mae gennyf un rownd arall o ddiolch i'w rhannu ar ran Debbie Marles, Swyddog Canlyniadau Bro Morgannwg, Rhanbarth Canol De Cymru ac Ardal Heddlu De Cymru. Eleni roedd llawer o gymhlethdodau ychwanegol i'w hystyried wrth gynnal tri etholiad ar yr un pryd yn ystod y pandemig.  Mewn e-bost a ysgrifennwyd yn gynharach yr wythnos hon, diolchodd Debbie i nifer o staff am eu 'cefnogaeth aruthrol dros y misoedd diwethaf'. Ychwanegodd Debbie 'ar y cyfan, cefais argraff anhygoel ac roeddwn i'n ddiolchgar, yn falch ac yn teimlo, wrth ystyried yn ôl, ychydig yn emosiynol i fod yn rhan o Dîm mor wych, Tîm y Fro.'  Gallen ni fod yn falch iawn o bawb a gymerodd ran, er gwaethaf heriau sylweddol.  Da iawn a diolch yn fawr. 

Efallai fod rhai ohonoch hefyd wedi clywed y newyddion trist i ni golli cydweithiwr arall yr wythnos diwethaf. Bu Martin Garrett yn gweithio fel un o'n porthorion gwerthfawr yn y Swyddfeydd Dinesig tan ddechrau 2020, pan ymddeolodd i barhau i ganolbwyntio ar ei iechyd a threulio amser gwerthfawr gyda'i deulu. Mae'n ddrwg iawn gen i orfod dweud bod Martin wedi marw fore Gwener diwethaf. Mae cydweithwyr wedi ysgrifennu teyrnged iddo, sydd i'w weld ar Staffnet+ . Roedd Martin wrth ei fodd gyda'i rôl yn y Cyngor, ac rwy’n siŵr y bydd pawb yn cytuno ei fod yn annwyl iawn i ni gyd yn y Cyngor am ei ymroddiad, ei ymrwymiad a'i ymdeimlad o falchder ym mhopeth a wnaeth. Roedd Martin yn llysgennad gwirioneddol dros Fro Morgannwg a bydd colled fawr ar ei ôl. Ar gais ei deulu, bydd cynhebrwng angladd Martin yn pasio'r Swyddfeydd Dinesig tua 10:20am ar 26 Mai. Gwahoddir staff a fyddai'n hoffi talu eu teyrngedau i sefyll yng nghwrt blaen y Swyddfeydd Dinesig. 

Cllr Burnett with pupils at Oakfield SchoolRoedd Aelodau'r Cabinet, y Cynghorydd Lis Burnett a'r Cynghorydd Peter King yn falch iawn o allu ymweld ag Ysgol Gynradd Oakfield yr wythnos hon. Ysgrifennodd disgyblion Oakfield at y Cabinet yn ddiweddar i roi gwybod iddynt am rai problemau yr oeddent wedi'u nodi yn eu cymuned leol wrth fod allan ar daith gerdded yn ddiweddar. Cafodd Lis a Peter eu tywys ar daith o amgylch yr ysgol fore ddoe, ac yna cawsant fyrbryd a baratowyd gan ddisgyblion a chyflwyniadau gan ddisgyblion o flynyddoedd 4, 5 a 6, a oedd yn wych yn ôl pob sôn. 

Mae swyddogion wedi ystyried syniadau ac awgrymiadau'r disgyblion a gobeithiwn allu cydweithio dros y misoedd nesaf i ddod o hyd i atebion i'r materion a nodwyd. Gwnaeth mentrau Big Bocs Bwyd a Cadfield argraff fawr ar y Cynghorwyr Burnett a King hefyd – lle gall teuluoedd lleol gael gafael ar ystod ffres ac iach o fwydydd wrth 'dalu'r hyn y gallant ei fforddio'. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am eich prosiect dros yr wythnosau nesaf. Ar ran aelodau a swyddogion ein Cabinet, diolch yn fawr am eich lletygarwch. 

Yr wythnos nesaf bydd cyfyngiadau'n cael eu llacio ymhellach ledled Cymru, wrth i'r sector lletygarwch agor ei ddrysau i gwsmeriaid sy’n bwyta dan do am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr diwethaf. O ddydd Llun, bydd hyd at chwech o bobl yn gallu cyfarfod mewn caffi, bar neu fwyty ac eistedd y tu mewn. Mae'r sector lletygarwch wedi bod yn paratoi ar gyfer y newid hwn dros yr wythnosau diwethaf ac rwy'n sicr y bydd ein Tîm Gorfodi ar y Cyd yn ymweld â lleoliadau dan do i gefnogi ailagor y lleoliadau hyn yn ddiogel, sicrhau y glynir wrth yr holl ganllawiau, er mwyn diogelu cwsmeriaid a staff. Os ydych yn bwriadu bwyta allan dros yr wythnosau nesaf, sicrhewch eich bod hefyd yn cadw at y gofynion diogelwch.  

Yn olaf, mae nifer o ymgyrchoedd cenedlaethol yr ydym wedi bod yn eu cefnogi y mis hwn, gan gynnwys Pythefnos Gofal Maeth, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, IDAHOBIT (Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Biffobia, Rhyngrywiaeth a Thrawsffobia) ac Wythnos Cynhwysiant Pobl Dduon. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr holl fentrau hyn ar Staffnet neu drwy ddilyn sianeli cyfryngau cymdeithasol.   

Mwynhewch y penwythnos. Cymerwch ofal a chadwch yn ddiogel!

Diolch yn fawr,

Rob.