Staffnet+ >
Tîm ysgolion yr 21ain ganrif y cyngor yn ennill gwobr
Tîm ysgolion yr 21ain ganrif y cyngor yn ennill gwobr
Mae ein tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi bod yn fuddugol yn y categori Cyflenwi Caffael Gorau yng Ngwobrau Go Cymru eleni.
14 Mai, 2021
Yn agored i sefydliadau'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, nod y gwobrau yw cydnabod rhagoriaeth mewn caffael cyhoeddus.
Bu’r gystadleuaeth yn gref yn yr adran Cyflenwi Caffael Gorau, gyda Chyngor y Fro yn wynebu her gan Trafnidiaeth Cymru, Swyddfa Rype a Sefydliad y Deillion Merthyr; Centerprise International gyda sefydliadau eraill yn cyfrannu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, HPE & Aruba; a Chyngor Sir Caerfyrddin.
Enillon nhw'r wobr am y ffordd gydweithredol y mae buddion cymunedol wedi'u cyflawni yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Codwyd adeiladau ysgolion i ddarparu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach drwy’r Sir gyfan.
Er enghraifft, mae contractwyr wedi ceisio dyfarnu swyddi wedi'u his-gontractio i gwmnïau lleol a darparu cyfleoedd prentisiaeth i bobl sy'n byw ym Mro Morgannwg.
Mae tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif yn rheoli'r rhaglen uwchraddio'r seilwaith addysgol yn sylweddol ledled y Sir, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Paula Ham, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau: "Mae hon yn wobr haeddiannol iawn i dîm sydd wedi mynd ymhell uwchlaw a thu hwnt wrth gyflawni ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, gan dreblu hyd yn oed eu targedau uchelgeisiol eu hunain.
"Nid yn unig y mae plant ledled y Fro yn mwynhau darpariaeth addysgol fodern o'r radd flaenaf, ond mae'r ffordd arloesol y darperir y cyfleusterau hyn yn golygu bod cymunedau cyfagos hefyd wedi elwa. Mae hyn wedi dod drwy gyfleoedd cyflogaeth, gweithgareddau cymunedol ac amgylcheddol a chontractau ar gyfer busnesau lleol."
Mae tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif bellach wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Go Cenedlaethol y DU, a daw’r canlyniadau mewn seremoni yn Birmingham ym mis Medi.
Rydym yn dymuno pob lwc iddynt yn y gwobrau! Llongyfarchiadau i Kelly, Matt a Chloe ar eich holl lwyddiannau.