12 Mawrth 2021

Annwyl gydweithwyr,

Rwy'n falch o allu ysgrifennu atoch heddiw, yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog am lwybr tymor byr i Gymru allan o'r cyfnod clo.

Bydd cyfyngiadau'n cael eu lleddfu'n raddol ac rwy'n mawr obeithio y bydd hyn am y tro olaf.  O yfory daw 'aros gartref' yn 'aros yn lleol'.  Bydd hyn o dan yr un rheolau â mis Mehefin 2020 gyda theithio'n cael ei ganiatáu'n gyffredinol o fewn 5 milltir.  Bydd pedwar o bobl o ddwy aelwyd yn cael cyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi a mannau preifat. Nid yw’r rheol hon yn cynnwys plant o dan 11 oed felly dylai hyn ganiatáu i deuluoedd estynedig gyfarfod unwaith eto, rhywbeth rwy'n gwybod y bydd llawer yn ei groesawu. Bydd cyrtiau chwaraeon awyr agored hefyd yn ailagor a gall ymweliadau dan do â chartrefi gofal ailddechrau ym mhob lleoliad, er bod rhai cyfyngiadau ar eu natur.   

O'r wythnos nesaf bydd pob disgybl yn gallu dychwelyd i'r ysgol (unwaith eto gyda gwahanol arferion ar gyfer gwahanol grwpiau oedran) a bydd gan y rhai ohonom sydd wedi bod yn amharod i ganiatáu i'n partner dorri ein gwallt bellach y dewis o fynd i siop trin gwallt. Dyma fydd y rhai cyntaf ymhlith y siopau manwerthu a gwasanaethau cyswllt agos i ailagor.  Disgwylir i ganolfannau garddio ddilyn yn fuan a bydd archfarchnadoedd yn cael gwerthu ystod ehangach o nwyddau yn ystod yr wythnosau nesaf hefyd.  

Bydd y newidiadau hyn yn dod â chyfleoedd i bobl gymdeithasu ac rydym i gyd yn gobeithio y bydd yr adolygiad nesaf yn galluogi mwy o’r rhyddid y mae Mark Drakeford wedi dweud y gallai fod yn bosibl erbyn y Pasg.  Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos yn debygol y bydd y mesur ‘aros yn lleol’ yn ildio i ganiatáu teithio ehangach, i gyfateb i agor llety gwyliau hunangynhwysol dros wyliau ysgol y Pasg, er y bydd hyn yn dibynnu i raddau helaeth ar gyfraddau trosglwyddo yn parhau yn ffafriol.  

Mae codi cyfyngiadau yn bosibl oherwydd yr ymdrech gyfunol enfawr i ostwng cyfraddau Covid-19 yng Nghymru.  Mae'r lefel genedlaethol bellach yn 43 achos i bob 100,000 – yn ddim byd tebyg i’r man lle'r oeddem ychydig fisoedd yn ôl. Er mwyn helpu i ostwng lefelau lleol ymhellach, mae Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro bellach yn cynghori preswylwyr i archebu prawf coronafeirws os oes ganddynt unrhyw un o blith ystod ehangach o symptomau. Bydd y newid yn helpu i ddod o hyd i achosion o amrywiadau newydd o COVID-19 ac i nodi pobl a allai fod mewn perygl o drosglwyddo'r clefyd i bobl eraill heb wybod hynny.

Yn ogystal â thri symptom mwyaf cyffredin Covid-19 - twymyn, peswch parhaus newydd neu golli/newid i’r gallu i arogli neu flasu - mae pobl bellach yn gallu cael prawf os oes ganddyn nhw unrhyw un o’r symptomau sydd ar restr newydd o symptomau. Y rhain yw blinder, myalgia (poenau neu wayw yn y cyhyrau),  gwddf tost, cur pen, tisian, trwyn yn rhedeg, dim chwant bwyd, cyfog, chwydu, neu ddolur rhydd.

Yn unol â chyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru, bydd y gwasanaeth hefyd yn cynnig prawf i’r holl unigolion sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â’r rheiny sydd wedi cael prawf positif, yn hytrach na gofyn iddynt aros nes iddynt ddatblygu symptomau.  Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnig profion i unrhyw un sydd wedi gweld newid yn eu symptomau yn dilyn canlyniad prawf negyddol blaenorol.

Ymhlith y straeon eraill, cafodd Asesiad Effaith Cymunedol wedi'i ddiweddaru ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Llun 8 Mawrth. Mae hwn yn adroddiad sy'n ystyried effaith ehangach pandemig y Coronafeirws ar ein cymunedau ym Mro Morgannwg, gan gynnwys newidiadau i'r gweithlu, newidiadau i incwm, cymorth economaidd, addysg, iechyd meddwl, digartrefedd, yr effaith amgylcheddol ac allgau digidol.  

Bydd yr asesiad hwn hefyd yn llywio sut rydym yn cynnal Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn y dyfodol, er mwyn ystyried effaith ehangach ein penderfyniadau polisi ar ein cymunedau.   

Defnyddiwyd y wybodaeth a'r dadansoddiad a gynhwysir yn yr Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned, ynghyd ag adborth o ymgynghoriad cyhoeddus, i ddatblygu'r Cynllun Cyflawni Blynyddol (CCB) ar gyfer 2021-22 a Chynlluniau Gwasanaeth cysylltiedig. Mae'r Cynllun yn manylu ar y gweithgareddau a gynhelir yn 2021-22 i gyflawni 4 Amcan Lles y Cyngor yng nghyd-destun pandemig presennol COVID-19 a Strategaeth Adfer y Cyngor. Mae’r rhain fel a ganlyn:  

  • Gweithio gyda, a thros ein cymunedau
  • Cefnogi dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy 
  • Cefnogi pobl gartref ac yn eu cymuned 
  • Parchu, gwella a mwynhau ein hamgylchedd 

Bydd yr ymrwymiadau yn y Cynllun Cyflawni Blynyddol yn cael eu hadlewyrchu mewn Cynlluniau Gwasanaeth blynyddol ynghyd â thargedau gwella gwasanaethau a fydd yn manylu ar sut y bydd gwahanol wasanaethau'r Cyngor yn cyfrannu at gyflawni ein pedwar Amcan Lles. Cafodd y Cynllun Cyflawni Blynyddol ei gymeradwyo gan y Cabinet ddydd Llun a bydd yn cael ei ystyried gan y Cyngor llawn ymhen ychydig wythnosau. Mae hyn yn dangos y trywydd i ni fel sefydliad wrth fwrw ymlaen â'n gwaith pwysig iawn o gefnogi'r bobl hynny sydd ein hangen fwyaf, rhywbeth rwy'n falch iawn ohono, yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth anhygoel i fywydau pobl yn ein cymunedau.  Yr wythnos hon, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Wasanaeth Ieuenctid y Fro am eu gwaith yn ystod blwyddyn heriol.   ‘Rwyf wedi dweud o'r blaen drwy'r neges hon fy mod yn cael adborth rheolaidd gan gydweithwyr a defnyddwyr gwasanaethau am y gwaith da sydd wedi'i wneud.   Yr wythnos hon, roeddwn yn falch iawn o dderbyn  canmoliaeth wych i Marc Webber a'i gydweithwyr sy'n gweithio ar y Rhaglen Ymgysylltu â Phobl Ifanc, am eu gwaith gwych. Mae aelod o deulu un o'r bobl ifanc sy'n rhan o'r rhaglen wedi rhoi o'u hamser i ysgrifennu at Marc i fynegi eu diolch am ei waith.  Nododd yr e-bost,    

'Mae wedi'i newid, ac er gwell, ac ni allaf ond gobeithio y gallwch barhau â'r gwaith gwerthfawr a wnewch gyda'r bobl ifanc hyn sydd, er gwaethaf popeth, â chymaint o botensial ac sy'n haeddu cyfle.

Mae Paula Ham, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau hefyd wedi ysgrifennu at Marc i fynegi ei diolch wrth ddarllen yr e-bost, gan ddweud:

'Gwneud gwahaniaeth i gyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc yw'r hyn sydd yn ein gyrru.  Mae clywed am yr effaith a gawsom yn galonogol ac yn ysgogol. Da iawn!’   

Roeddwn hefyd wrth fy modd o gael copi o adborth gan berson ifanc ar ein rhaglen Ysbrydoli i Weithio, a ddywedodd am ein hyfforddwr dysgu, Annette Harrison, 'Rwy'n ddyn gwahanol, gyda bywyd gwell.   Gallwn i ddim bod wedi gwneud hynny heb y prosiect hwn'.   Mae hyn yn dangos gwir werth ein gwaith, yn enwedig yn ystod cyfnodau eithriadol o anodd i lawer o'n trigolion a'n cymunedau.  Da iawn i Annette am dderbyn adborth mor wych ac i Peter Williams a'i dîm Ysbrydoli i Weithio sy'n gyfrifol am arwain ar y rhaglen.   

Rwyf hefyd yn falch o allu dweud wrthych fod y Cyngor yr wythnos hon wedi gwneud dau ymrwymiad mawr i bobl ag awtistiaeth, i gyd-fynd â lansio'r ymgyrch ‘Allwch chi fy ngweld i?’  

Yn fewnol, bydd pob un o'n huwch-reolwyr yn derbyn hyfforddiant yn ystod mis Ebrill i gyflawni ardystiad Ymwybyddiaeth Awtistiaeth. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn ystyried anghenion y rhai ag awtistiaeth nid yn unig yn ein proses recriwtio ond gyda phenderfyniadau ar sut rydym yn darparu ein gwasanaethau hefyd.  Yn allanol, mae cabinet y Cyngor yr wythnos hon wedi cymeradwyo cymorth ychwanegol i fyfyrwyr ysgol uwchradd ag awtistiaeth yn Ysgol Uwchradd Whitmore yn y Barri.  Bydd disgyblion â chyflwr sbectrwm awtistig yn gallu manteisio ar ganolfan adnoddau arbenigol newydd. Dim ond un agwedd ar gynlluniau'r Cyngor i wella addysg arbennig ar draws y Fro yw hon. 

Yr wythnos nesaf, bydd y Tîm Arweinyddiaeth Strategol unwaith eto'n cyfarfod i drafod y camau nesaf i'r Cyngor wrth ymateb i'r newidiadau diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw. Ysgrifennaf atoch eto'r wythnos nesaf gyda diweddariad pellach ar beth fydd rhyddhau cyfyngiadau yn ei olygu i rai o'n gwasanaethau dros yr wythnosau nesaf.    

Gan obeithio y caiff pob un ohonoch benwythnos da. Arhoswch yn ddiogel, arhoswch yn lleol. 

Diolch yn fawr,

Rob