Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod rhyngwladol sy’n dathlu llwyddiant cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae'r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu am gyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Thema'r ymgyrch eleni yw #DewisHerio  

IWD 2021 (1)08 Mawrth 2021

'Mae byd sy'n cael ei herio yn fyd sy’n effro ac o her y daw newid. Sut y byddwch chi’n helpu i greu byd â chydraddoldeb rhywiol? 

Dathlu cyflawniadau menywod.

Codwch ymwybyddiaeth yn erbyn rhagfarn.

Gweithredwch dros gydraddoldeb.’

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Mae Aelodau'r Cabinet, y Cynghorydd Lis Burnett a'r Cynghorydd Kathryn McCaffer, wedi cael eu cyfweld gan Bro Radio am eitem arbennig yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.  

Bydd ein Tîm OD a Dysgu yn cyhoeddi amrywiaeth o adnoddau yr wythnos hon i godi ymwybyddiaeth o:

  • Iechyd Menywod;
  • Effaith pandemig y Coronafeirws ar fenywod sy'n gweithio gartref; a
  • Sut i wneud y gweithle'n fwy cyfartal. 

Felly cadwch lygad allan am negeseuon e-bost y caffi Dysgu yr wythnos hon.

Ymunwch 

Os hoffech gefnogi'r ymgyrch #DewisHerio, ymunwch ar y cyfryngau cymdeithasol. Lanlwythwch hunlun neu lun lle rydych chi'n gwneud yr ystum her, a defnyddiwch yr hashnod #DewisHerio neu wneud adduned. Tagiwch @CBroMorgannwg fel y gallwn rannu eich lluniau. Neu anfonwch nhw at social@valeofglamorgan.gov.uk fel y gallwn rannu eich addewid.  

Gwefan Diwrnod Rhyngwladol y Menywod