Profion COVID-19 bellach ar gael i bobl yng Nghaerdydd a'r Fro gydag ystod ehangach o symptomau 

Mae Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro bellach yn cynghori preswylwyr i archebu prawf coronafeirws os oes ganddynt unrhyw un o blith ystod ehangach o symptomau. 

17 Mawrth 2021

Mae'r newidiadau'n cael eu gwneud er mwyn helpu i ddod o hyd i achosion o amrywiadau newydd o COVID-19 ac i nodi pobl a allai fod mewn perygl o drosglwyddo'r clefyd i bobl eraill heb wybod hynny.

Yn ogystal â thri symptom mwyaf cyffredin Covid-19 - twymyn, peswch parhaus newydd neu golli/newid i’r gallu i arogli neu flasu - mae pobl bellach yn gallu cael prawf os oes ganddyn nhw unrhyw un o’r symptomau sydd ar restr newydd o symptomau. Y rhain yw blinder, myalgia (poenau neu wayw yn y cyhyrau),  gwddf tost, cur pen, tisian, trwyn yn rhedeg, dim chwant bwyd, cyfog, chwydu, neu ddolur rhydd.

Yn unol â chyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru, bydd Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro hefyd yn cynnig prawf i’r holl unigolion sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â’r rheiny sydd wedi cael prawf positif, yn hytrach na gofyn iddynt aros nes iddynt ddatblygu symptomau, ac yn cynnig profion i unrhyw un y mae eu symptomau wedi newid yn dilyn canlyniad prawf negyddol blaenorol.

Dylai staff y cyngor barhau i gysylltu â'u rheolwr llinell, yn y lle cyntaf, er mwyn archebu prawf trwy ein tîm AD.