MD message header

11 Mehefin, 2021

Annwyl Gydweithwyr,

Gobeithio eich bod yn dda wrth i’r neges hon eich cyrraedd ar ddiwedd wythnos brysur arall ym Mro Morgannwg. Ar ôl gwyliau’r hanner tymor, mae’n teimlo fel bod popeth wedi ailgychwyn. 

Mae gwaith y Cyngor yn canolbwyntio’n gadarn ar edrych tua’r dyfodol ac sut y gallwn ni wireddu ein huchelgais i adeiladu cymunedau cryf gyda dyfodol disglair. Ddydd Llun, cymeradwyodd y Cabinet gais am fuddsoddiad gwerth £20 miliwn i Gronfa Codi’r Gwastad y DU er mwyn parhau â’r gwaith adfywio Glannau’r Barri. Dros y 20 mlynedd diwethaf, mae siopau a bwytai wedi’u datblygu yn ardal y Glannau, yn ogystal â buddsoddi sylweddol mewn tai, gyda mwy o fuddsoddi i ddilyn ar gyfer cyfleusterau addysg.. Fel Cyngor rydym bellach am fynd â'r ardal i'r lefel nesaf drwy ei chysylltu'n well â chymunedau eraill Y Barri a datgloi potensial tir cyflogaeth a hamdden. Caiff y cais ei ddatblygu nawr a gyda rhagor o waith a fwriedir i gyflwyno cais cryf am gyllid. 

Cymeradwywyd hefyd yn y cyfarfod  gynigion ar gyfer datblygiad newydd â defnydd cymysg ar ochr orllewinol canol tref Y Barri. Gallai Safle Cyfansawdd Pont Gladstone ddod yn gartref i ganolfan feddygol newydd, gan ddisodli’r Clinig Broad Street presennol, yn ogystal â fflatiau ar gyfer pobl hŷn sy’n debyg i gyfleuster gofal ychwanegol Golau Caredig gerllaw. Yna caiff y Clinig Broad Street presennol ei ailddatblygu'n floc o fflatiau fforddiadwy na fydd ganddynt feini prawf oedran ond a fydd yn darparu cartrefi newydd i deuluoedd lleol. Mae dwy elfen y cynllun yn amodol ar ganiatâd cynllunio a chyllid prosiect. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r cynigion hyn i’r cam nesaf.

Cardiff & Vale Young Carers ID CardYn neges yr wythnos diwethaf, soniais i y byddem yn nodi Wythnos Gofalwyr a gaiff ei dathlu’n flynyddol ym mis Mehefin i gydnabod gwaith y gofalwyr di-dal sy’n aml yn aros heb gael ei ganmol. Ddoe, ar y cyd â Chyngor Caerdydd a’r YMCA gwnaethom lansio cynllun Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc yn y rhanbarth. Nod y cynllun yw helpu gweithwyr proffesiynol i adnabod gofalwyr ifanc fel y gallant gael gafael ar eitemau hanfodol yn rhwydd, megis meddyginiaethau, ar gyfer aelodau eu teuluoedd. Mae dros 350 o ofalwyr ifanc yng Nghaerdydd a’r Fro a gaiff gefnogaeth gan y sefydliadau hynny, ond amcangyfrifir bod 1 allan o bob 5 plentyn a pherson ifanc o oedran ysgol yn rhoi gofal i aelod teulu. Rwy’n falch ein bod yn gallu cefnogi’r cynllun hwn ym Mro Morgannwg ac yn gobeithio ei fod yn golygu y bydd yn rhwyddach cael gafael ar wasanaethau penodol i ofalwyr ifanc yn y dyfodol. 

GLAM at PrideMae'r mis hwn hefyd yn Fis Pride rhyngwladol a'r wythnos hon mae ein rhwydwaith Cydweithwyr a Chynghreiriaid LHDT+, GLAM wedi rhannu canllaw ar ddathlu Pride 2021, wrth i ddigwyddiadau barhau i gael eu canslo oherwydd pandemig y Coronafeirws. Mae nifer o ffyrdd o ddangos eich cefnogaeth i'r gymuned LHDT+ y mis hwn, gan gynnwys cefnogi busnesau LHDT+ lleol, drwy wylio ffilm neu gyfres deledu sy'n portreadu'r gymuned LHDT+ yn gadarnhaol ac yn codi ymwybyddiaeth, drwy roddi i sefydliad elusennol neu drwy rannu adnoddau ar-lein i godi ymwybyddiaeth o Fis Pride a pham ei fod yn cael ei ddathlu ledled y byd. Gweler Canllaw GLAM ar Staffnet+ i gael rhagor o wybodaeth. 

Yn olaf, hoffwn ddymuno pob llwyddiant i dîm pêl-droed Cymru ym Euro 2020, sy’n dechrau’r penwythnos yma, ar ôl cael ei hoedi am flwyddyn. Gobeithio y gall y tîm wneud y daith wych honno i’r rownd gynderfynol eto fel yn 2016 ac o bosibl fynd gam ymhellach!  Ac i bob cydweithiwr a allai fod yn cefnogi timau eraill - pob lwc!

Gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos da, beth bynnag a wnewch.

Cymerwch ofal, diolch.

Rob.