Staffnet+ >
Neges wythnosol gan y Rheolwr Gyfarwyddwr i'r holl staff

25 Mehefin, 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Gobeithio eich bod yn cadw’n dda wrth i’r neges hon eich cyrraedd ar ddiwedd wythnos brysur arall ym Mro Morgannwg.
Ddoe penderfynodd ein Huwch Dîm Arwain wneud ein cyfarfod arferol fore Iau wyneb yn wyneb a chwrdd am daith gerdded lles 6 chilomedr o amgylch Parc Gwledig Porthceri a'r Knap yn y Barri. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn eich annog i'w wneud o fewn eich timau, os gallwch gymryd peth amser allan a chwrdd yn yr awyr agored. Fel grŵp, trafodwyd nifer o bethau gennym, gan gynnwys Llyfr Diwylliant newydd y sefydliad, sy'n cael ei gwblhau ar hyn o bryd gan y Tîm Datblygu Sefydliadol gyda mewnbwn gan y grŵp Ymgysylltu ac Arloesi staff. Mae hyn yn ddatblygiad o'r Siarter Staff a'i nod yw dangos ein gwerthoedd sefydliadol ar waith. Edrychaf ymlaen at rannu'r fersiwn derfynol gyda chi yn fuan iawn.
Ar bwnc Parc Gwledig Porthceri, yr wythnos diwethaf cefais e-bost gan Mark Shephard, Prif Weithredwr un o'n awdurdodau cyfagos, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd Mark wedi ymweld â Phorthceri yn ddiweddar gyda'i deulu am y tro cyntaf ers nifer o flynyddoedd a chymerodd yr amser i anfon e-bost ataf i drosglwyddo canmoliaeth i'r tîm sy'n cynnal y Parc Gwledig rhagorol hwn. Yn ei e-bost ysgrifennodd Mark,
"Roeddwn i'n meddwl ei fod yn rhagorol, meinciau gwych, wedi'u cynnal a'u cadw'n ardderchog, mewn cyflwr da, digonedd o finiau, parcio hawdd, caffi hyfryd a theithiau cerdded braf gan gynnwys ar hyd y traeth."
Da iawn i Melanie Stewart a'ch tîm am eich holl waith caled yn y parc.
Mae Melanie hefyd yn un o nifer o swyddogion sydd wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Ynys y Barri yr wythnos hon i gefnogi eu gweithgareddau wythnos gyfoethogi, sydd i gyd wedi'u hysbrydoli gan ein Prosiect Diwastraff. Mae Ynys y Barri wedi bod yn brysur yn trydar drwy gydol yr wythnos hon, gan rannu enghreifftiau anhygoel o ddyfeisgarwch a chreadigrwydd y disgyblion. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan, i Helen Moses am drefnu cyfarfod cychwynnol i drafod y prosiect a hefyd i roi'r ysgol mewn cysylltiad â chydweithwyr perthnasol. A diolch yn fawr i Mr Gilbert, Miss Davies a'ch holl staff a disgyblion am gefnogi a chyfrannu at y Prosiect Diwastraff, mae'n wych gweld beth sydd wedi'i gyflawni mewn cyfnod mor fyr.
Mae trigolion Penarth hefyd wedi bod mewn cysylltiad â mi yr wythnos hon i ganmol y gwelliannau parhaus i lwybrau troed ac addasiadau cwrbyn ar hyd glan y môr a’r esblanâd. Dywedir wrthyf fod y cyhoedd wedi bod yn canmol ac mae'r is-gontractwyr wedi bod yn gyfeillgar ac yn llawn gwybodaeth. Diolch i gydweithwyr priffyrdd sydd wedi trefnu'r gwaith hwn. Mae hyn yn rhan o'n gwaith i wella gwahanol leoliadau arfordirol a chanol trefi ledled y Fro, gan eu gwneud yn lleoedd deniadol i drigolion ac ymwelwyr. Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â Phafiliwn y Pier a’r esblanâd eto fy hun y bore yma i weld y gwaith sydd ar y gweill yno.
Y penwythnos hwn mae Pafiliwn Pier Penarth yn cynnal digwyddiad cerddoriaeth glasurol byw cyntaf Cymru ers i'r cyfnod clo leddfu a chymerodd y Cyngor berchnogaeth weithredol ar yr adeilad. Mae gŵyl gerddoriaeth Siambr Penarth yn cael ei chynnal o fewn yr adeilad, gyda chynulleidfa fach yn bresennol a ffrwd fyw drwy eu Sianel YouTube, i unrhyw un sy'n dymuno gwylio. I ddathlu'r digwyddiad mae darn arbennig o'r enw 'Pier' wedi ei gyfansoddi a bydd yn cael ei berfformio heddiw, am y tro cyntaf. Rwy'n falch iawn bod y Cyngor, mewn cyfnod byr o amser, wedi cymryd rheolaeth dros y Pafiliwn, wedi sefydlu Caffi Mawr Ffres prysur a phoblogaidd a'i fod bellach mewn sefyllfa i gynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw. Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cefnogi'r gwaith hwn ac edrychaf ymlaen at weld beth arall sydd ar y gorwel ar gyfer Pafiliwn Pier Penarth.
Gyda niferoedd cynyddol o achosion o’r coronafeirws yn ein cymunedau, hoffwn fanteisio ar y cyfle i atgoffa pawb o bwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo'n rheolaidd, gwisgo gorchudd wyneb tu fewn (ac yn yr awyr agored pan nad yw ymbellhau cymdeithasol yn bosibl). Byddwn hefyd yn annog pawb i ystyried manteisio ar y cynnig i gael brechlyn. Mae Canolfan Brechu Torfol y Bae yn gweithredu cyfleuster galw i mewn bob penwythnos i unrhyw un sy'n byw ac yn gweithio ym Mro Morgannwg a Chaerdydd, rhwng 8am a 4pm. Nid oes angen apwyntiad, dim ond cyrraedd gyda phrawf adnabod a gallwch gael mynediad i'r gwasanaeth brechu.
Yn olaf, llongyfarchiadau i Gymru (a Lloegr) sydd wedi cyrraedd yr 16 olaf yn Euro 2020 – pob lwc yn y rownd nesaf! Bydd Cymru'n chwarae Denmarc nos Sadwrn am 5pm.
Gobeithio y caiff pawb benwythnos dymunol. Cymerwch ofal.
Diolch,
Rob.