Staffnet+ >
Wythnos gofoethogi Prosiect Diwastraff Ysgol Gynradd Ynys y Barri
Wythnos gofoethogi Prosiect Diwastraff Ysgol Gynradd Ynys y Barri
Yr wythnos hon, cymerodd disgyblion Ysgol Gynradd Ynys y Barri ran mewn wythnos gyfoethogi lle cymerodd yr ysgol gyfan ran mewn gwahanol weithgareddau a ysbrydolwyd gan fenter Prosiect Sero y Cyngor.
Mae’r Prosiect Sero yn rhan o Gynllun Her Ehangach y Cyngor ar Newid yn yr Hinsawdd, a fydd yn ein helpu i gymryd camau fel sefydliad i sicrhau carbon net-sero erbyn 2030.
Drwy gydol yr wythnos, mae wedi bod yn wych gweld bod Ysgol Gynradd Ynys y Barri wedi bod yn rhannu ei gweithgareddau arloesol yn y dosbarth ac yn ystyried y newidiadau y gall eu gwneud tuag at ddod yn ysgol fwy carbon niwtral.
Cymerodd y disgyblion ran mewn gweithgareddau fel mapio eu llwybrau teithio llesol eu hunain, dysgu am filltiroedd bwyd a chynnwys siwgr bwyd, a phrofi cynhyrchion ynni adnewyddadwy.
Mae staff y Cyngor hefyd wedi helpu i gefnogi'r wythnos gyfoethogi. Er enghraifft, mae cydweithwyr o dîm ein parciau wedi ymweld â'r ysgol i drafod y prosiect ailwylltio ym Mharc Porthceri ac roedd y tîm Arlwyo yn siarad am wahanol fathau o fwyd.
Hoffem ddiolch i'r holl staff a helpodd i drefnu'r wythnos a'r disgyblion am gymryd rhan.