Cymorth i ofalwyr ifanc gyda chynllun cerdyn adnabod newydd

Lansiwyd yfory (Dydd Iau, Mehefin 10), yn ystod Wythnos Gofalwyr, gynllun newydd i alluogi gofalwyr ifanc yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i gael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth sydd eu hangen arnynt.

Dydd Mercher 09 Mehefin, 2021

Mae'r cerdyn adnabod i Ofalwyr Ifanc yn fenter genedlaethol i wella dealltwriaeth o rôl pobl ifanc sy’n gofalu am aelod o deulu neu ffrind, yn enwedig ymhlith y gweithwyr proffesiynol hynny y maent yn dod i gysylltiad â nhw amlaf.

Bydd y cynllun yn nodi'r person ifanc sy'n cario'r cerdyn fel gofalwr ifanc, ac yn helpu pobl fel meddygon, athrawon a fferyllwyr i'w hadnabod a'u cefnogi'n briodol.

Gofalwr ifanc yw rhywun sy’n 18 oed neu’n iau sy’n gofalu am rywun nad yw’n gallu ymdopi heb ei gymorth oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth. 

Mae dros 350 o ofalwyr ifanc yn cael eu cefnogi gan wasanaethau yng Nghaerdydd a'r Fro ac mae'r unigolion hyn yn gwneud cymaint i helpu a chefnogi aelodau o'r teulu a ffrindiau, yn aml heb eu gweld, gan roi cymorth a chefnogaeth ymarferol ac emosiynol - o olchi, cario a choginio i drefnu cyllid y teulu. Mae cyfanswm amcangyfrifedig nifer y gofalwyr ifanc ar draws y rhanbarthau yn fwy tebygol o fod yn nes at un o bob pump plentyn a pherson ifanc oedran ysgol.

Rydym ni'n gweithio gyda Chyngor Caerdydd a'r YMCA i gyflawni'r cynllun cerdyn adnabod ar draws y rhanbarth.  Mae'r YMCA eisoes yn cefnogi gofalwyr ifanc yn yr ardal drwy amrywiol fentrau gan gynnwys Prosiect Gofalwyr Ifanc Caerdydd a’r gofalwyr ifanc sydd eisoes yn gweithio gyda'r elusen fydd y cyntaf i dderbyn eu cardiau adnabod newydd.

Bydd y cerdyn yn cynnwys llun o'r gofalwr ifanc, ei ddyddiad geni, a dyddiad dod i ben, yn ogystal â gwybodaeth gyswllt Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a gwasanaethau gofalwyr ifanc. Bydd logo cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc, a ddyluniwyd gan ddau ofalwr ifanc, ar bob cerdyn.

Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Ni waeth pwy y mae gofalwr ifanc yn gofalu amdano, mae’n cael effaith ar fywyd y person ifanc hwnnw, boed hynny ar ei les emosiynol neu gorfforol, ei gyflawniad addysgol neu ei gyfleoedd mewn bywyd. Fodd bynnag, gyda'r gefnogaeth gywir, gall pobl ifanc gydbwyso eu dyletswyddau gofalu â gwneud y pethau sy'n bwysig iddynt, a ellir eu grymuso i gyflawni eu potensial a chyflawni eu huchelgeisiau.

"Bydd y cynllun cerdyn adnabod newydd hwn yn codi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau gofalwyr ifanc ac yn eu helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnynt."


Gall ysgolion a gweithwyr addysg proffesiynol gyfeirio gofalwr ifanc at y cynllun cerdyn adnabod ar wefan YMCA.

Gall gofalwyr ifanc atgyfeirio eu hunain hefyd, ond rhaid i unrhyw un dan 14 oed gael cydsyniad rhieni cyn cael cerdyn.

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi bod yn allweddol wrth gefnogi'r cynllun cerdyn adnabod cenedlaethol a'i gyflwyno ledled Cymru.

I ategu'r cardiau adnabod newydd, cynhyrchwyd amrywiaeth o adnoddau dysgu gan yr Ymddiriedolaeth gan gynnwys animeiddiadau a straeon gofalwyr ifanc i helpu athrawon, meddygon ac eraill i ddeall mwy am yr heriau y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu.Gwyliwch yr animeiddiad isod.