Staffnet+ >
Rhaglen Gweithgareddau Gwyliau 'Haf o Hwyl'
Rhaglen Gweithgareddau Gwyliau 'Haf o Hwyl'
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) wedi creu rhaglen o weithgareddau ar gyfer plant, pobl ifanc, a’u teuluoedd yn ystod gwyliau haf yr ysgolion.
21 Gorffennaf, 2021
Wrth i gyfyngiadau barhau i gael eu llacio, mae Tîm y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol casglu gwybodaeth ynghyd am yr hyn sy'n digwydd yn y Fro dros yr haf. Mae'r rhaglen yn cynnwys gweithgareddau wedi eu hariannu drwy gynllun 'Haf o Hwyl' Llywodraeth Cymru, sydd ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc i wella o'r pandemig a chael hwyl yn ystod yr haf. Mae'r gweithgareddau hyn yn cael eu darparu gan Dîm Byw'n Iach y Fro, a nifer o phartneriaid arall, sydd hefyd yn trefnu gweithgareddau chwaraeon a chwarae plant.
Yn ogystal â rhaglen 'Haf o Hwyl', mae'r gweithgareddau'n cynnwys clybiau chwaraeon, gweithgareddau llyfrgell, digwyddiadau mewn parciau, cynlluniau chwarae a mwy. Bydd y rhaglen yn cael ei diweddaru'n barhaus wrth i weithgareddau gael eu cadarnhau.
Gall GGiD hefyd ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol am gynlluniau gofal plant yn ystod y gwyliau, mathau eraill o ofal plant, cymorth gyda chostau a gwasanaethau gofal plant a chymorth i blant ag anghenion ychwanegol.
I gael gwybod beth sy'n digwydd yn agos i chi, neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan neu ffoniwch 01446 704704.
Mae gan y GGiD hefyd Dudalen Facebook ‘@VOGFIS a chyfrif Twitter @ValeFIS i helpu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.