Staffnet+ >
Considering starting or extending your family?
Ystyried dechrau neu ehangu eich teulu?
Y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, yw gwasanaeth mabwysiadu cydweithredol yr awdurdod lleol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bro Morgannwg a Chyngor Dinas Caerdydd.
23 Gorffennaf, 2021

Rydym yn ymroddedig i ddod o hyd i deuluoedd ar gyfer plant sydd angen eu mabwysiadu ar draws ein pedair ardal awdurdod lleol ac rydym wedi parhau i weithredu ein gwasanaeth llawn drwy gydol y pandemig.
Os ydych wedi bod yn ystyried archwilio mabwysiadu fel llwybr i ddechrau neu ehangu eich teulu yna byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.
Neu, os ydych yn adnabod rhywun a allai fod yn ystyried mabwysiadu, rhowch wybod iddynt, byddem wrth ein boddau yn clywed ganddyn nhw hefyd.
Ar hyn o bryd, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl a fyddai'n agored i ystyried plant 3+ oed, grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant o bob oed sydd â phrofiadau plentyndod niweidiol cymhleth.
I ddysgu mwy am fabwysiadu gyda ni:
Ewch i’n gwefan:
Gofynnwch am becyn gwybodaeth drwy gyflwyno eich manylion
Ffoniwch ni: