Cabanau Glan Môr Ynys y Barri yw’r rhai mwyaf poblogaidd yn y DU

Mae Ynys y Barri wedi cael ei henwi fel y gyrchfan fwyaf poblogaidd yn y DU i ymwelwyr sy'n awyddus i logi caban glan môr, yn ôl ymchwil a wnaed gan Money.co.uk

06 Gorffennaf, 2021

Dyw'r newyddion hyn ddim wedi bod yn syndod i'r tîm y tu ôl i 'Ymweld â’r Fro', ein hadran twristiaeth, digwyddiadau a marchnata, sy'n hyrwyddo'r cabanau glan môr a'r Fro ehangach fel cyrchfan i ymwelwyr.

Bro Radio Beach Huts interview - tweetAr ôl clywed y newyddion gofynnodd Bro Radio i Nia Hollins, y Prif Swyddog Twristiaeth a Marchnata, ymddangos ar eu rhaglen 'Vale this week'.

Yn ystod y cyfweliad, dywedodd Nia: 

"Mae hyn yn newyddion gwych ac yn hwb ychwanegol i'r gyrchfan, ond dydw i ddim yn synnu.  Wrth gwrs fy mod i'n mynd i ddweud hynny, rwy'n caru ein cabanau glan môr. Does dim byd gwell na diwrnod allan i'r teulu i gabanau glan môr Ynys y Barri, maen nhw heb eu hail. Felly mae'n wych ei gadarnhau fel hyn ac mae'n hollol wych i'r gyrchfan. 

"Lansiwyd gwefan newydd Ymweld â’r Fro yn ddiweddar ac mae'r data'n dangos i ni mai dyna sut mae pobl yn dod o hyd i ni, maen nhw'n defnyddio beiriannau chwilio i ddod o hyd i 'Ynys y Barri'."

Mae Nia a'i thîm wedi bod ynghanol y gwaith o adfywio Ynys y Barri dros y chwe blynedd diwethaf, gan ddod â rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau penwythnos i'r gyrchfan bob haf (cyn y pandemig) ac yn marchnata'r cabanau glan môr i deuluoedd. Mae'r gwaith hwn wedi bod yn hanfodol wrth gyfrannu at un o'n Hamcanion Llesiant, 'i gefnogi dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy'. 

Royal visit Barry Island - Nia, Marcus, Rob, Dke and DuchessY llynedd pan wnaeth Dug a Duges Caergrawnt ymweld ag Ynys y Barri roedd ymweliad â'r cabanau ar frig eu rhestr (ar ôl gêm gyflym yn slotiau Nessa!). A Nia a Sarah, ein cydlynydd digwyddiadau, a chwaraeodd ran allweddol wrth sicrhau bod yr ymweliad yn mynd yn ei flaen mor ddidrafferth â phosibl. 

Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr, "Mae enw da'r Fro fel cyrchfan gwyliau teuluol i raddau helaeth yn ganlyniad i Nia a'i thîm, sy'n gweithio ochr yn ochr â'n tîm Rheoli Cyrchfannau brwdfrydig ac ymroddedig i gadw'r gyrchfan yn edrych yn wych bob amser. Mae'n wych bod eu gwaith caled a'u hymroddiad wedi cael eu cydnabod fel hyn.  Dyma bluen arall yng nghap Ynys y Barri ac rwy'n falch o'r gwaith sydd wedi mynd i mewn i adfywio’r gyrchfan fel yr un orau i dwristiaid yn y DU."


Beth am gefnogi economi'r Fro eich hun yr haf hwn ac archebu caban glan môr yn Ynys y Barri?  Ewch i https://cy.visitthevale.com/