Staffnet+ >
Message from the Managing Director

08 Ionawr 2020
Annwyl Gydweithwyr,
Yn fy neges gyntaf yn 2021, hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Gobeithio eich bod yn cadw’n dda ac wedi cael rhywfaint o amser i ymlacio dros gyfnod y Nadolig.
Ar ddechrau'r flwyddyn newydd, rydym mewn sefyllfa heriol iawn ac nid oes lle o hyd i fod yn hunanfodlon. Mae cyfraddau Covid-19 yn dal yn uchel iawn ym Mro Morgannwg. Cyfradd yr achosion newydd ym Mro Morgannwg yw 534.5 fesul 100k o'r boblogaeth dros y 7 diwrnod diwethaf. Mae'r gyfradd hon bellach yn rhoi'r Fro uwchben awdurdod cyfagos Caerdydd. Mae'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd o ganlyniad i’r coronafeirws bellach yn acíwt. Mae nifer y rhai â Covid-19 sy’n cael eu derbyn i'r ysbyty yng Nghaerdydd a'r Fro yn sefydlog ar hyn o bryd ond yn uchel iawn, gyda derbyniadau dyddiol 50% yn uwch na'r uchafbwynt a gafwyd yn y don gyntaf. Mae cyfraddau defnydd gwelyau Covid-19 66% yn uwch nag uchafbwynt y don gyntaf. Mae amrywiolyn newydd y feirws yn ychwanegu at y pwysau hyn gan ei bod yn haws iddo gael ei drosglwyddo rhwng pobl. Nawr yn fwy nag erioed mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn dilyn y rheolau a'r canllawiau – golchi ein dwylo'n rheolaidd, cadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb pan fyddwn y tu mewn i fannau cyhoeddus. Ar hyn o bryd mae Cymru o dan gyfyngiadau Lefel 4 – y lefel rhybudd uchaf. Rhaid i ni aros gartref gymaint â phosibl i gadw ein hunain ac eraill yn ddiogel.
Mae'n galonogol mai yn yr wythnos hon y cafwyd y defnydd cyntaf o frechlyn Rhydychen/AstraZeneca yn y Fro. Er y gallai fod yn rhy gynnar i ddweud mai dyma ddechrau'r diwedd, mae'n sicr yn garreg filltir bwysig yn ein hadferiad o'r pandemig.
Mae ein cydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd yn gweithio'n galed iawn i gyflwyno'r brechlyn i bobl yn y grwpiau blaenoriaeth yng Nghymru cyn gynted â phosibl. Rydym yn eu cefnogi i wneud hyn. Erbyn diwedd mis Ionawr, bydd pob un o'n cydweithwyr rheng flaen ym maes gofal cymdeithasol wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn. Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd y rhaglen frechu yn cyflymu yn y Fro drwy agor y ganolfan brechu torfol yn y Barri a gyda meddygon teulu ac eraill yn dechrau cynnig y brechlyn i grwpiau blaenoriaeth. Byddwn yn cysylltu â phobl pan fyddant yn gymwys i gael y brechlyn a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i hyn ddatblygu.
Roeddwn yn falch o ddarllen e-bost yr wythnos hon gan un o'n darparwyr gofal yn diolch i'r Tîm Achosion am eu cefnogaeth ragorol. Mae'r Tîm Achosion yn bartneriaeth sy'n dod â'n Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir a chydweithwyr iechyd at ei gilydd i gefnogi lleoliadau gydag achosion o’r coronafeirws:
'Dim ond nodyn byr iawn yw hwn i ddweud pa mor wych fu'r gefnogaeth gan yr holl Dîm Achosion dros y dyddiau diwethaf (ac mae'n siŵr y bydd yn parhau i fod felly). Rwy'n gwybod bod gennym ffordd bell iawn i fynd ond roeddwn am gofnodi hynny i chi – fel y dywedais yn un o'r cyfarfodydd, gwyddom pa mor lwcus ydym i fod yn y Fro wrth i ni wynebu'r sefyllfa drawmatig a heriol iawn hon. Maent i gyd wedi bod mor gefnogol. Mae'r system yn gweithio ac rwy’n gwybod y bydd y gefnogaeth yno i ni yn y cyfnod anodd sydd o'n blaenau.'
Enghreifftiau fel hyn sy'n rhoi hyder i ni fel Uwch Dîm Arweinwyr y gallwn, gyda'n gilydd, fynd drwy'r cyfnod mwyaf heriol.
Bydd y coronafeirws yn ffactor amlycaf eto ym misoedd cyntaf y flwyddyn sy’n dod. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwneud cynlluniau ar gyfer sut byddwn yn dod allan o'r pandemig fel sefydliad cryfach a all fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu. Rydym wedi gweld y gall Tîm y Fro wneud hyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac rwyf am i ni ddefnyddio'r un dull ym mhob agwedd ar ein gwaith.
Rydym wedi gorffen ymgynghori â chi, y cyhoedd a'n partneriaid yn ddiweddar ar Gynllun Cyflawni Blynyddol y flwyddyn nesaf a blaenoriaethau ein cyllideb. Bydd y rhain yn chwarae rhan fawr wrth lunio sut mae'r Fro yn gwella ac yn symud ymlaen o'r pandemig. Rwy'n edrych ymlaen at weld cynnydd ar yr ystod eang o faterion pwysig i'n trigolion. Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn parhau â'n gwaith i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, gan gefnogi ein preswylwyr bregus yn eu cartrefi ac yn ein gofal, gan ddatblygu ein Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, llunio trefniadau ailgylchu newydd, mynd i'r afael â digartrefedd, ystyried sut rydym yn defnyddio technoleg a gwella ein mannau agored a'n cyrchfannau. Mae'n bryd symud y Fro yn ei blaen nawr, a symud ein sefydliad yn ei flaen.
Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o fewn tîm y Fro – ac yn 2021 cawn gyfle i lunio'r math o sefydliad rydym am weithio iddo. Rwy'n edrych ymlaen at weld gwaith ein rhwydwaith LHDT, GLAM, yn parhau a hefyd at weld ein rhwydwaith BAME yn cael ei lansio. Bydd y fenter Eich Lles Eich Iechyd yn parhau ac mae ein Fforwm Ymgysylltu ac Arloesi hefyd yn gweithio ar Lyfr Diwylliant newydd ar hyn o bryd i adfywio'r Siarter Staff a gosod y weledigaeth ar gyfer sut rydym yn cynnwys, ymgysylltu ac ymgynghori â holl gydweithwyr yn y Fro.
Gyda'n gilydd gallwn barhau i adeiladu ar ein hanes rhagorol a chyflawni ein nodau ar y cyd ar gyfer 2021 a dangos pam mai Tîm y Fro yw'r tîm gorau yng Nghymru.
Parhewch i ofalu amdanoch eich hunain a'ch gilydd. Arhoswch gartref a chadwch yn ddiogel.
Diolch yn fawr,
Rob.