29 Ionawr 2021

Annwyl Gydweithwyr,

Gobeithio bod pob un ohonoch yn cadw’n iawn. Rydym yn nesáu at ddiwedd ein chweched wythnos dan gyfyngiadau lefel pedwar yng Nghymru ac mae cyhoeddiad heddiw gan y Prif Weinidog wedi cadarnhau y bydd y cyfyngiadau hyn yn parhau am dair wythnos arall. 

O ran nifer achosion COVID-19 ym Mro Morgannwg, mae'n nhw’n gostwng, ond o bwynt uchel iawn. Mae'n debygol, pe bai cyfyngiadau'n cael eu llacio nawr, na fyddai hynny am hir. Mae'r amrywiolion newydd yn ffactor gan fod y mathau hyn o'r feirws yn trosglwyddo’n haws ac mewn rhai achosion, maent yn fwy difrifol. Y darlun gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yw bod pethau'n gwella o ran pobl yn yr ysbyty, ond eto, mae'r niferoedd yn uchel iawn. Felly, am y tro, mae arnom angen mwy o'r un peth, sef aros gartref a chyfyngu ar drosglwyddo'r feirws er mwyn gweld y gyfradd gadarnhaol yn gostwng ymhellach.

Rydym wedi cael rhywfaint o newyddion cadarnhaol y bore yma, gyda'r Prif Weinidog yn cadarnhau y gallai rhai disgyblion ysgol gynradd ddechrau dychwelyd i'r ysgol o 22 Chwefror, ar ôl yr hanner tymor, os yw’r cyfraddau Covid yn parhau i ostwng. Yn amlwg, nid yw hwn yn ddyddiad pendant gan y bydd yn dal i ddibynnu'n fawr ar gyfraddau trosglwyddo ledled Cymru a bydd, fel y dywedwyd, yn dibynnu ar gyfraddau'n parhau i ostwng.  Mae'n bwysig felly ein bod i gyd yn chwarae ein rhan i gyfyngu ar y cyfraddau trosglwyddo. Yn y cyfamser, byddwn yn gweithio'n agos gyda Phenaethiaid i baratoi at ddisgyblion yn dychwelyd i’r ysgol yn y dyfodol agos.  

Rwy'n gwybod bod hwn wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd ac mae'r cyfyngiadau hyn wedi effeithio'n negyddol ar iechyd meddwl llawer o bobl. Felly, hoffwn eich annog i gyd i gymryd rhywfaint o amser ddydd Iau nesaf (Diwrnod Amser i Siarad) i ymuno ag egwyl baned rithwir a chael sgwrs gyda chydweithwyr nad ydych efallai wedi'u gweld ers misoedd. Does dim angen i chi siarad am waith, cymerwch amser i gael paned a sgwrs gyda'ch gilydd a gweld sut mae pawb.

Yr wythnos hon rwyf wedi bod mewn trafodaethau gyda chydweithwyr ar draws Cynghorau Caerdydd a'r Fro a'r Bwrdd Iechyd Prifysgol i gadw mewn cysylltiad â phwysigrwydd y rhaglen frechu. Daliais i fyny â Lance, Cyfarwyddwr ein Gwasanaethau Cymdeithasol yr wythnos hon i drafod y cynnydd yn ein cartrefi gofal, a dywedodd:

"Rwy'n falch o allu rhoi gwybod i chi fod brechu wedi bod ym mron pob cartref gofal ym Mro Morgannwg bellach. Mae hwn yn gam sylweddol i ni fel sefydliad sydd nid yn unig yn golygu bod rhai o'n staff rheng flaen mwyaf hanfodol yn cael eu hamddiffyn rhag y feirws ond hefyd rhai o'n trigolion sydd fwyaf agored i niwed. Gobeithio y gallwn, yn ystod y misoedd nesaf, ail-gyflwyno ymweliadau â chartrefi gofal fel y gall ein preswylwyr gyfarfod unwaith eto â'u hanwyliaid yn bersonol. Hoffwn hefyd ddiolch i dîm imiwneiddio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am y gamp anhygoel hon."

Ar destun tebyg, rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganolfan frechu torfol y Fro a fydd yn gweithredu o Ganolfan Hamdden Holm View yn Y Barri o 8 Chwefror. Hoffwn ailadrodd neges o ddiolch a gefais yn gynharach yr wythnos hon gan Cath Doman, Cyfarwyddwr Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol, (Partneriaeth IGCI) a ddywedodd:

"Dim ond nodyn cyflym i ddiolch yn fawr iawn i'r tîm sydd wedi bod yn ymwneud â chyflwyno cynigion brechu torfol y Fro, am wneud mwy na’r disgwyl dros y dyddiau diwethaf a gweithio ar gyflymder aruthrol; rydych chi wedi bod yn hollol syfrdanol!"

Diolch i bawb sy'n ymwneud â gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol i alluogi'r cyfleuster hwn i gael ei gyflwyno mor gyflym. 

Newydd cadarnhaol arall yw ein bod wedi cael manylion ein setliad drafft gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar. Rydym yn disgwyl cynnydd gan 4.9% yn y cyllid ar gyfer y Fro, sydd tua £7miliwn o gynnydd ar ein cyllideb flynyddol. Dyma'r cynnydd mwyaf sylweddol a gawsom yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd y Cabinet yn ystyried ein cynigion cyllidebol ar 8 Chwefror. Mae'r cynnydd hwn yn golygu y gellir ariannu llawer o'r pwysau sydd ar ein cyllidebau presennol. Bydd angen gwneud arbedion, ac er eu bod yn dal i fod yn heriol, o ystyried y pwysau ar wasanaethau, ni fydd y ffigur hwn yn agos at yr arian y bu rhaid i ni ei arbed dros y blynyddoedd blaenorol. 

Wrth i ni symud drwy'r wythnosau nesaf ac i'r gwanwyn, mae angen i ni gymryd amser i feddwl a chynllunio sut y gall ein sefydliad fod yn y dyfodol. Rhan allweddol o hyn yw ein Rhaglen Ail-lunio. Yn ddiweddar rydym wedi bod yn cael trafodaethau fel Uwch Dîm Arwain, Penaethiaid Gwasanaeth a chyda'r Cabinet ar sut y dylai Ail-lunio edrych yn y dyfodol. Bydd ein gweithredoedd fel sefydliad yn cael eu llywio gan ein Cynllun Corfforaethol a'n Strategaeth Adfer.  O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae themâu newydd yn cael eu datblygu, gyda blaenoriaethau newydd. Mae'r adolygiad hwn yn nodi newid o'r ffocws fel rhaglen fewnol o newid i raglen allanol sy’n trafod sut rydym yn bwrw ymlaen â'n rôl fel arweinydd cymunedol pwysig. Bydd rhaglen Ail-lunio newydd yn cael ei hystyried gan y Cabinet ym mis Chwefror. 

Gobeithio y cewch i gyd benwythnos braf o orffwys. Cymerwch ofal a chadwch yn ddiogel.

Diolch yn fawr,

Rob.